Mae’r BBC wedi lansio tri chasgliad i nodi ei 100 mlwyddiant ac adrodd hanes ‘canrif o ddarlledu’.
- Mae’r casgliad 100 o Wrthrychau yn cynnwys hen offer technegol fel meicroffonau, props o rai o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd, dogfennau a gwaith celf.
- Mae’r casgliad 100 o Wynebau yn cynnwys lluniau o’r archif o rai o bersonoliaethau amlycaf y BBC dros y blynyddoedd
- Casgliad o hanes llafur yw’r 100 o Leisiau sy’n adrodd stori rhai o arloeswyr y gwasanaeth.
Mae’r casgliadau i’w gweld ar wefan BBC 100, sydd hefyd yn dangos llinell amser ryngweithiol fesul blwyddyn yn dangos digwyddiadau mawr y ganrif a aeth heibio.
“Mae gan y BBC stori ryfeddol sy’n perthyn inni i gyd,” meddai Robert Seatter, pennaeth hanes y BBC.
“Wrth inni nodi 100 mlynedd o’r BBC, mae’r adnoddau digidol newydd hyn yn rhoi darlun unigryw o hanes y Gofforaeth ac yn cynnig rhywbeth i gynulleidfaoedd o bob oed.”