Bydd S4C yn annog eu holl gynhyrchwyr rhaglenni i ystyried canllawiau cynaliadwyedd penodol fel rhan o bartneriaeth newydd.
Ers dechrau’r flwyddyn, mae’r darlledwr wedi llofnodi cytundeb â chonsortiwm albert, sy’n ceisio addysgu’r diwydiant teledu a ffilm am eu heffeithiau ar yr amgylchedd, yn ogystal â galw am weithredu.
Bydd hi nawr yn orfodol i bob cwmni sy’n cynhyrchu rhaglenni sy’n cael eu darparu gan y sianel ddilyn canllawiau cynaliadwyedd ac amgylcheddol wrth wneud hynny.
Yn rhan o hynny, mae gofyn i gwmnïau amcangyfrif eu hôl-troed carbon, a chwblhau proses ardystio albert, sy’n golygu y bydd rhaid iddyn nhw wrthbwyso eu holl allyriadau.
Mae’r consortiwm hefyd yn cynnig hyfforddiant am ddim i’r rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant er mwyn tynnu eu sylw at sut y gallan nhw wneud newidiadau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
‘Dyletswydd’
Wrth gyhoeddi’r canllawiau newydd, mae Geraint Evans, cyfarwyddwr cynnwys S4C, wedi pwysleisio’r angen am gynhyrchu carbon isel.
“Gyda newid hinsawdd mor dyngedfennol, mae’n hollbwysig fod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o’r ffordd y mae rhaglenni S4C yn cael eu cynhyrchu,” meddai.
“Mae gennym ddyletswydd i sicrhau ein bod yn cadw ein heffaith amgylcheddol mor isel â phosibl.
“Ein nod yw gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ac annog y cynhyrchwyr rydym yn gweithio â nhw i roi blaenoriaeth i gynaliadwyedd tra’n cynhyrchu rhaglenni i S4C.”
Mae Dyfrig Davies, cadeirydd newydd Teledwyr Annibynnol Cymru, yn croesawu’r fenter ar y cyd rhwng S4C a chonsortiwm albert.
“Mae materion amgylcheddol yn gynyddol bwysig i aelodau TAC ac mae’n rhaid i liniaru newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog yn ein gwaith,” meddai.
“Rwy’n croesawu’r cydweithio rhwng S4C a’r sector cynhyrchu teledu annibynnol i gyflwyno’r cynllun cynhyrchu cynaliadwy albert yn ei threfn gomisiynu.”