Seren deledu a radio yw’r gyntaf i gael ei datgelu ar gyfer cyfres newydd Iaith ar Daith eleni.

O ddydd i ddydd, mae’r Parchedig Kate Bottley yn cyfuno ei gwaith fel offeiriad gyda’i gwaith ar y teledu a’r radio, gan gynnwys cyflwyno rhaglen Songs of Praise.

Roedd hi hefyd yn ymddangos ar raglen boblogaidd Channel 4, Gogglebox, rhwng 2014 a 2016.

Jason Mohammad, cyd-gyflwynydd Bottley ar raglen Good Morning Sunday ar BBC Radio 2, fydd yn ei thywys o gwmpas Cymru wrth iddi ymgyfarwyddo â’r Gymraeg.

Fe wnaeth y ddau gyfarfod â’i gilydd yng Nghaerdydd ddoe (dydd Iau, 7 Ionawr) er mwyn dechrau ar eu hantur, gyda Bottley yn postio ar Twitter ar ddiwedd y dydd.

“Am ddiwrnod! Cymru am Byth! Diolch yn fawr,” meddai ar gyfryngau cymdeithasol.

Ar ôl y diwrnod cyntaf, fe wnaeth Jason Mohammad ddatgelu’r newyddion ar Twitter.

“Hapus i gyhoeddi bod @revkatebottley wedi cyrraedd yng Nghymru i ddysgu Cymraeg,” meddai Mohammad, sydd wedi cyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Dwi’n helpu fy ffrind o @BBCRadio2 ac hefyd, dwi nawr yn cario bagiau hi!

“Pob lwc Kate.”

Dydy S4C heb gyhoeddi gweddill y lein-yp ar gyfer cyfres 2022 o Iaith ar Daith eto, na phryd y bydd yn ymddangos ar deledu.

Dyma fydd y drydedd gyfres o’r rhaglen boblogaidd, sy’n manylu ar selebs gwahanol fesul pennod wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg.

Roedd y gyfres ddiwethaf yn cynnwys enwau fel Kiri Pritchard-McLean, Chris Coleman a Rakie Ayola, tra bod Carol Vorderman, Colin Jackson a Scott Quinnell ymhlith y rhai wnaeth ymddangos ar y gyfres gyntaf.