Mae cael rhaglen ei hun ar S4C yn “freuddwyd”, meddai’r cyflwynydd a’r drymiwr, Owain Wyn Evans.

Bydd Owain yn cael cwmni gwahanol selebs yn y gyfres newydd, Siop Siarad Owain, a fydd yn dechrau heno (7 Ionawr) ar S4C.

Gall gwylwyr ddisgwyl “lot o hwyl” o’r gyfres, meddai wrth golwg360, yn ogystal â nifer o wynebu cyfarwyddwr, cerddoriaeth, ambell sypreis a… drymio.

Yn ddiweddar, fe wnaeth gwblhau drwmathon 24 awr er mwyn codi arian at Blant Mewn Angen, gan ddrymio am ddiwrnod cyfan.

Bydd Owain Wyn Evans, sydd wedi bod yn cyflwyno ar y BBC ers dros 15 mlynedd, yn cael cwmni’r actor Alexandra Roach, sy’n gyfarwydd am ei rôl yn Killing Eve, a’r cyn-ddyfarnwr rygbi Nigel Owens yn y bennod gyntaf.

Bydd cerddoriaeth gan Steffan Rhys Williams, a chyfle i ddathlu arwyr tawel Cymru hefyd, yn ogystal â sgyrsiau amrywiol, anffurfiol, a “dim byd rhy drwm”.

“Breuddwyd”

Mae gweithio ar y gyfres wedi bod yn “brofiad anhygoel”, meddai Owain Wyn Evans, a ddaeth yn wyneb cyfarwydd yn ystod y pandemig wedi i fideo ohono’n drymio i gerddoriaeth Newyddion y BBC gael ei gwylio dros chwe miliwn o weithiau.

“Dw i wrth fy modd yn siarad a dw i wrth fy modd yn siopa felly roedd gwneud yn siŵr bod y pethau yna yn rhan o’r rhaglen yma yn bwysig iawn i fi,” meddai.

“Ni jyst wedi cael lot o hwyl yn gwneud e. Mae’r bobol sydd wedi bod ar y rhaglen wedi bod yn lot o hwyl hefyd, ac yn amlwg i fi yn bersonol mae cael rhaglen fy hun ar S4C jyst yn freuddwyd.

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i yn y sefyllfa yma, ond mae fe jyst wedi bod mor hyfryd – cael sgwrs ddiddorol gyda phobol, a mwynhau’r ochr yna o gyflwyno.

“Bron â bod, bod ochr arall y gadair, y soffa, lle dw i’n holi pobol a chael cyfle i gael sgwrs gyda nhw. Mae e wedi bod yn ffab.

“Mae fy mywyd i wedi bod yn dipyn o gorwynt ers y drwmathon ar gyfer Plant Mewn Angen, ond mi fydd gwylwyr S4C â chof da yn gwybod bod e wedi cymryd tipyn o amser i fi ddod yn ‘overnight sensation’!

“Felly dwi wrth fy modd cael bod yn ôl ar S4C lle ddechreuais i fy ngyrfa flynyddoedd yn ôl.”

“Digon o hwyl”

Dechreuodd gyrfa gyflwyno Owain Wyn Evans ar Ffeil S4C pan oedd yn ddeunaw oed, ond mae’r rhaglen newydd yn “eithaf anffurfiol”, meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio gwneud yn siŵr bod e’n eithaf anffurfiol achos dw i ddim yn berson ffurfiol iawn o gwbl, er fy mod i wedi gweithio ym myd newyddion ers blynydde mawr nawr,” meddai.

“Fi wrth fy modd jyst yn cael chat bach gyda phobol, a jyst cael bach o hwyl gyda nhw,

“Dw i’n credu y bydd hynna’n rhywbeth pwysig iawn i fi gyda’r rhaglen yma.

“Mae yna gerddoriaeth ymhob rhaglen hefyd, ac wrth gwrs fydda i’n chwarae’r drymiau ar adegau achos mae drymio yn rhan fawr o’m mywyd i’r dyddiau yma.

“Mae fe wedi bod yn grêt bod nôl tu ôl i’r drwms a chwarae nhw eto!”

Fe fydd y rhaglen yn gyfle i ddysgu mwy am ei westai, meddai, gan ddod i wybod mwy am eu bywydau nhw a thrafod “pob math o bynciau”.

“Hefyd, roeddwn i’n eithaf keen i wneud yn siŵr bod pobol adre sy’n gwylio’r rhaglen yma ar S4C yn teimlo fel bod nhw jyst yn ishde ar y soffa gyda ni yn cael clonc, a fi’n credu bod hwnna’n rhywbeth sy’n bwysig iawn i fi ar y rhaglen yma.

“Felly digon o hwyl gobeithio, a jyst dysgu mwy am y bobol sydd gyda ni ar y rhaglen.

  • Bydd Siop Siarad Owain yn dechrau ar S4C heno (7 Ionawr) am 9yh, a bydd ar gael ar alw ar S4C Clic ac iPlayer.

Dyn tywydd yn cwblhau her drwmathon 24-awr

Owain Wyn Evans yn codi £2m at Blant mewn Angen