Llwybr Clawdd Offa fydd yn cael prif sylw cyfres deledu newydd a fydd yn cael ei darlledu ledled Prydain dros yr wythnosau nesaf o nos Fawrth ymlaen.
Bydd Wonders of the Border yn dilyn Sean Fletcher, un o gyflwynwyr Good Morning Britain a Countryfile, wrth iddo ymweld â thros 50 lleoliad ar hyd y Llwybr Cenedlaethol 177 milltir o hyd – gan gyfarfod ag amrywiaeth o bobl ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr.
“Roedd hi’n anrhydedd i gael y cyfle i deithio ar hyd Llwybr ysblennydd Arfordir Cymru ar gyfer rhaglenni hynod boblogaidd a ddarlledwyd ar ITV yn 2020,” meddai Sean Fletcher. “A nawr, rwy’n gallu cwblhau’r daith o gwmpas y wlad yr ydw i’n falch o’i galw’n ail gartref i fi.
“Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen yn cynnig ychydig ysbrydoliaeth ar gyfer llefydd i ymweld â nhw ac i fwynhau gogoniant cefn gwlad ar hyd y ffordd.”
Dywed Rob Dingle, Swyddog Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, ei fod yn gobeithio y bydd y gyfres yn denu mwy o gerddwyr i’r gororau.
“Mae gan y Llwybr rywbeth i’w gynnig i bawb – gyda chymaint i weld a gwneud ar hyd y daith,” meddai.
“Rwy’n siŵr y bydd taith Sean yn dangos hyn ar ei orau gan ysbrydoli cerddwyr profiadol a newydd fel ei gilydd i fentro i ganol yr holl harddwch sydd ar drothwy eu drws – a’r cyfan tra’n cefnogi’r busnesau lleol a’r atyniadau niferus ar hyd y llwybr.”
Hanes
Yn ystod y gyfres, bydd Sean yn dysgu mwy am hanes Clawdd Offa ei hun gan droi ei law at ambell weithgaredd mwy cyfoes, o gaiacio a nofio gwyllt yn Afon Gwy i feicio mynydd yng Nghoedwig Llandegla.
Mae Llwybr Clawdd Offa yn ymestyn o Glogwyni Sedbury ger Cas-gwent yn y de hyd at Brestatyn ar lannau Môr Iwerddon yn y gogledd – gan ymweld ag wyth sir wahanol a chroesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr dros 20 o weithiau.
Mae hefyd yn cysylltu pedair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Dyffryn Gwy, Bryniau Swydd Amwythig, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bryniau Clwyd / Dyffryn Dyfrdwy.
Bydd y bennod gyntaf o’r gyfres chwe rhan i’w gweld ITV o 7.30 nos Fawrth (11 Ionawr), gyda’r pum rhifyn dilynol i’w gweld dros yr wythnosau canlynol.