Mae’r dyn tywydd BBC Owain Wyn Evans wedi cwblhau drwmathon 24-awr i godi dros £2 filiwn at elusen Plant mewn Angen.

Dechreuodd y darlledwr ar ei her ar y BBC Breakfast Show fore ddoe (dydd Gwener 12 Tachwedd) am 8.35, gan barhau i ddrymio drwy’r dydd a’r nos nes cwblhau fore heddiw.

Gorffennodd ei sesiwn marathon drymio gyda Baby One More Time Britney Spears with i’r seren bop ddathlu diwedd cyfnod gwarchodaeth o dan reolaeth ei thad a barhaodd am 13 mlynedd.

“Mae pobl wedi bod mor hael,” meddai Owain. “Alla i ddim credu ei fod wedi dod i ben, yn rhyfeddol mae fy nwylo wedi dal ati’n iawn, ond dw i wedi cael rhai problemau gyda fy mreichiau oherwydd eu bod wedi bod yn symud am 24 awr.

“Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu, mae Plant mewn Angen y BBC yn helpu achosion sy’n agos iawn at fy nghalon.”

Wrth drafod yr her, soniodd y dyn tywydd sut roedd drymio wedi ei helpu wrth dyfu i fyny fel dyn ifanc hoyw yn Rhydaman.

Fe fydd sioe apêl Plant mewn Angen yn cael ei darlledu ar BBC One o 7pm nos Wener