Mae Plaid Cymru wedi cadw sedd ar Gyngor Sir Ddinbych yn dilyn ymddiswyddiad Mabon ap Gwynfor wedi iddo gael ei ethol i’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd ym mis Mai.

Gwyneth Ellis yw’r aelod newydd dros Landrillo ger Corwen, ar ôl curo’r ymgeisydd annibynnol David Robinson o 179 i 140. Daeth Julian Sampson dros y Ceidwadwyr yn drydydd gydag 88 o bleidleisiau.

“Dw i wrth fy modd o ennill – mae’n wych,” meddai’r Cynghorydd Ellis wrth Wasanaeth Adrodd Democratiaeth Leol LDRS.

“Mae’n hen dro nad oes ond chwe mis at yr etholiad nesaf ond fe wnaf fy ngorau yn yr amser byr.”