Mae pleidleiswyr yn troi cefn ar y Torïaid, gyda mwyafrif clir o’r farn eu bod yn “llwgr iawn” o ganlyniad i’r penawdau negyddol diweddar, yn ôl arolygon barn newydd.

Mae arolwg gan Savanta ComRes i’r Daily Mail  yn rhoi Llafur chwe phwynt ar y blaen i’r Ceidwadwyr, sy’n awgrymu y gallai’r ffrae am ail swyddi Aelodau Seneddol a helynt Owen Patterson effeithio ar eu poblogrwydd.

Mae’r canlyniadau’n dangos y Torïaid wedi gostwng pedwar pwynt a Llafur wedi dringo pump ers arolwg tebyg yr wythnos ddiwethaf.

Mae arolwg arall, gan YouGov i’r Times, hefyd yn dangos cwymp yng nghefnogaeth y Toriaid, gyda Llafur bellach yn gyfartal â nhw gyda 35% yr un. Mae hefyd yn dangos bod dau draean o’r rhai a holwyd yn dweud bod y Torïaid yn “llwgr iawn”.

Daw hyn wrth i’r pleidiau ymgyrchu ar gyfer is-etholiad yn Old Bexley and Sidcup, ar gyrion Llundain, ar Ragfyr 2, yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog James Brokenshire y mis diwethaf.