Wrth i drafodaethau Cop26 yn Glasgow redeg yn hwyr, mae fersiwn newydd o’r cytundeb yn dal i gynnwys galwadau ar i wledydd gyflymu’r broses o ddiddymu cymorthdaliadau i lo a thanwyddau ffosil.
Mae’r drafft diweddaraf, sydd wedi’i gyhoeddi 13 awr ar ôl yr amser roedd yr uwch-gynhadledd i fod i ddod i ben, hefyd yn gofyn i wledydd ailedrych ar eu targedau torri allyriadau ar gyfer 2030 erbyn diwedd 2022.
Mae hyn yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n allweddol er mwyn cadw’r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C o fewn cyrraedd, er nad yw’n cyfeirio at hynny’n benodol.
Yng Nghytundeb Paris 2015, ymrwymodd gwledydd i gyfyngu codiadau mewn tymheredd i “sylweddol lai na 2C” a cheisio’u cyfyngu i 1.5C er mwyn osgoi’r effeithiau mwyaf peryglus fel stormydd, sychder, methiannau cnydau, llifogydd ac afiechyd.
Cadw’r nod o 1.5 yn fyw
Bydd angen i wledydd godi eu targedau torri allyriadau yn y blynyddoedd nesaf er mwyn rhwystro’r nod o 1.5C rhag llithro allan o gyrraedd.
Mae’r cytundeb yn galw hefyd ar i wledydd cyfoethog gynyddu eu darpariaeth o gyllid hinsawdd i helpu gwledydd sy’n datblygu addasu i newid hinsawdd, trwy o leiaf ddyblu’r hyn oedd yn 2019 erbyn 2025.
Er gwaethaf gwrthwynebiad gan wledydd sy’n gynhyrchwyr ac allyrwyr mawr o danwydd ffosil, mae’r cyfeiriad at gael gwared ar y cymorthdaliadau wedi goroesi i’r fersiwn ddiweddaraf.
Dyma’r cyntaf i gytundeb newid hinsawdd o’r math hwn gyfeirio’n benodol at lo neu danwyddau ffosil.
Mae’n galw ar wledydd i gyflymu technoleg a pholisïau i symud tuag at systemau o ynni allyriadau isel, gan gydnabod hefyd yr angen am gefnogi “trawsnewid teg” i warchod y rheini a allai golli swyddi neu wynebu costau uwch o ganlyniad i’r newid at ynni glân.