Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar hyd y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yr wythnos nesaf i bwyso ar Boris Johnson i gydweithio’n well â’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y grwp Border Communities Against Brexit (BCAD) yn cynnal protestiadau mewn pump o wahanol leoliadau ar y ffin i gefnogi’r protocol.

Maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o fod yn gwbl anghyfrifol trwy fygwth torri’r cytundeb sydd wedi rhwystro ffin galed yn Iwerddon, ond sydd wedi creu rhwystrau masnachol rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon.

Meddai cadeirydd y grwp, Damian McGinnity: “Mae llywodraeth Boris Johnson wedi dilyn llwybr di-hid ac anghyfrifol mewn trafodaethau ynghylch y protocol gyda’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys bygwth gweithredu Erthygl 16.

“Fe wnaeth mwyafrif y bobl a’r pleidiau gwleidyddol yn y Gogledd wrthwynebu Brexit, ac maen nhw’n cefnogi’r protocol fel y fecanwaith allweddol i rwystro ffin galed ac amddiffyn economi’r ynys gyfan a Chytundeb Dydd Gwener y Groglith.

“Rydym yn galw ar Boris Johnson i gallio, ac amddiffyn a gweithredu’r protocol, sydd wedi lliniaru effeithiau gwaethaf Brexit i gymunedau fel ein rhai ni.”

‘Peryglus ac ymfflamychol’

Mae’n rhybuddio bod Llywodraeth Prydain yn difrodi heddwch Gogledd Iwerddon.

“Mae’r rhethreg beryglus ac ymfflamychol sy’n deillio o Lywodraeth Boris Johnson yn tanseilio’r cynnydd rydym wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Wnawn ni ddim gadael i’r broses heddwch gael ei thanseilio.”

Bydd y grwp yn cynnal eu gwrthdystiadau am 3 o’r gloch bnawn Sadwrn nesaf (20 Tachwedd.)

“Galwn ar bawb sy’n byw ar hyd y ffin, y naill ochr a’r llall, i wneud ymdrech i fynd i’w protest agosaf,” meddai Damian McGinnity.

“Ymunwch â ni ddydd Sadwrn i ddweud yn uchel wrth Boris Johnson am gallio ac amddiffyn y protocol.”