Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod dros fil o bobl wedi dod i’w rali tu allan i’r Senedd heddiw (dydd Sadwrn 13 Tachwedd) i alw am weithredu brys er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa dai.

Ymysg galwadau’r ymgyrchwyr yr oedd gofyn am Ddeddf Eiddo i reoli prisiau tai a rhent fel eu bod fforddiadwy i bobl sy’n byw ar incymau lleol.

Anerchwyd y dorf ar risiau’r Senedd gan Ali Yassine, Rhys Tudur o’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra a Chadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones.

Wrth annerch y dorf, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones:

“Mae pobl yn gweld anghyfiawnder y system tai a chynllunio yn eu bywydau bob dydd, ymhob rhan o’r wlad. Nid yw’n iawn bod yna rai gyda mwy nag un tŷ, tra bod eraill yn ddigartref.

“Mae’r dystiolaeth yn glir — boed hynny’r bobl sy’n gorfod dewis rhwng talu am wres neu rent; y bobl ifanc sy’n gorfod gadael eu cymuned i allu fforddio cartref; neu’r bobl sy’n gweld bywyd eu cymunedau yn edwino o ganlyniad i dai moethus sy’n aros yn wag am ran fwyaf y flwyddyn.

“Y farchnad rydd yw craidd y problemau Cymru-gyfan hyn, sy’n amlygu eu hunain mewn amryw o ffyrdd yn ein cymunedau. Ond canlyniad penderfyniadau gwleidyddol yw hyn, ac mae modd gwneud pethau’n wahanol. Rydyn ni wedi ennill o’r blaen, ac os tynnwn ni ynghyd fel cymunedau ac ymgyrchwn ni’n galed, gwelwn ni, yn hwyr neu’n hwyrach, gyfundrefn tai ac eiddo wedi’i thrawsnewid. Gyda’n gilydd mae’r grym gyda ni.”

 

Argyfwng diwylliannol sy’n gofyn am sylw penodol a gweithredu ar frys

Huw Prys Jones

Mae’r argyfwng tai yng nghadarnleoedd y Gymraeg yn gofyn am gamau ymarferol i’w cymryd ar frys –  nid breuddwydion ofer am ddymchwel cyfalafiaeth