Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi ymateb i’r fargen sydd wedi’i tharo yn uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow, gan ddweud mai cynnwys y fargen honno “yw’r lleiaf sydd angen ei wneud”.

Dywed y gall Cymru a gwledydd bychain eraill arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae e wedi mynegi ei rwystredigaeth ynghylch “ymgais ar y funud olaf” i leihau effaith y fargen, gan rybuddio bod yr hil ddynol yn dal mewn perygl o safbwynt dyfodol y blaned.

Yn ôl Cytundeb Glasgow, mae’n rhaid i wledydd wneud mwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a symud tuag at ddyfodol nad yw’n ddibynnol ar lo.

Mae gwledydd fu’n rhan o’r uwchgynhadledd wedi cytuno i gryfhau eu hymrwymiad i dorri allyriadau carbon erbyn 2030 cyn diwedd y flwyddyn, a hynny fel rhan o’r ymrwymiad i gyfyngu cynhesu byd-eang i lai nag 1.5 gradd selsiws.

Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i fod yn llai dibynnol ar y diwydiant glo ac i dorri’r arian ar gyfer tanwydd ffosil annigonol.

Sawl rhybudd

Mae arweinwyr gwleidyddol wedi rhoi croeso gofalus i’r cytundeb, gydag Alok Sharma, Llywydd COP26, yn rhybuddio mai “dim ond os ydym yn cadw at ein haddewidion” y bydd y cytundeb yn para.

Ac yn ôl Antonio Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, mae’r byd “yn dal i guro ar ddrws trychineb hinsawdd”.

Serch hynny, mae’n cydnabod fod yna “flociau adeiladu” wedi cael eu rhoi yn eu lle wrth ddod i gytundeb ar ariannu tanwydd ffosil, dod â glo i ben, gosod pris ar garbon, adeiladu gwytnwch cymunedau bregus yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, a bwrw iddi â’r ymrwymiad ariannol o $100bn i gefnogi gwledydd sy’n datblygu.

Er bod Boris Johnson yn dweud bod y cytundeb yn “gam mawr ymlaen”, mae’n dweud bod “llawer iawn mwy i’w wneud yn y blynyddoedd i ddod”.

Cafodd iaith y fargen ei newid ar y funud olaf ac, yn hytrach na “dileu” glo, fe fydd ymgais i “leihau” ei ddefnydd.

Roedd hynny ar gais Tsieina, ac mae rhai gwledydd Ewropeaidd wedi ymateb yn chwyrn i’r newid.

Mae Greenpeace International yn dweud bod y fargen yn “wan”, ond maen nhw’n croesawu’r symudiad tuag at gefnu ar lo.

Ymateb yng Nghymru

Mae Adam Price yn dweud mai “camau ac nid camau breision” sydd wedi’u cymryd wrth daro’r fargen, gan ddweud ei bod yn “annigonol”.

“Serch hynny, mae’r gynhadledd wedi’i chynnal o dan amgylchiadau herioll ac mae’r targedau mwyaf uchelgeisiol mae gofyn i wledydd eu cyrraedd y flwyddyn nesaf i’w croesawu,” meddai.

“Mae’r ymdrechion munud olaf i wanhau’r iaith ar danwydd ffosil yn rhwystredig iawn.

“Dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod ni’n gweld y cytundeb fel lleiafswm pur yn nhermau’r hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sydd eisoes yn cipio bywydau o amgylch y byd.

“Rhaid i’r diffyg uchelgais sydd wedi’i ddangos gan rai o’r gwledydd mwyaf pwerus wrth y bwrdd beidio â llesteirio gallu gwledydd bychain a sionc fel Cymru i weithredu’n annibynnol a gwneud popeth allwn ni i dorri allyriadau.

“Mae Plaid Cymru’n ymrwymo o hyd i Gymru sero net erbyn 2035 – mae hyn yn hanfodol os ydyn ni am chwarae ein rhan i gadw’r nod o gynhesu byd-eang rhag cynyddu y tu hwnt i 1.5 gradd selsiws yn fyw.

“Rydym eisoes yn arweinwyr byd wrth ailgylchu, ac mae gennym botensial enfawr sydd heb ei gyffwrdd yn nhermau adnoddau naturiol.

“Does dim amheuaeth y bydd pob un ohonom yn cael ein heffeithio gan yr argyfwng byd-eang yn ein tro, ac mae gan bob un ohonom ddyletswydd i wneud yr hyn allwn ni i frwydro yn ei erbyn.”