Mae gwasanaethau Sul y Cofio yn cael eu cynnal yng Nghymru heddiw (dydd Sul, Tachwedd 14) ar ôl i’r trefniadau gael eu heffeithio gan gyfyngiadau Covid-19 y llynedd.

Yn 2020, roedd Sul y Cofio ar ddiwrnod ola’r cyfnod clo dros dro, pan oedd cyfyngiadau ar faint o bobol oedd yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored.

Ond eleni, fe fydd gwasanaethau mwyaf Cymru yng Nghaerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno a Wrecsam.

Bydd y prif weinidog Mark Drakeford yn mynd i wasanaeth ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd.

Mae cyfyngiadau ar rai gwasanaethau, serch hynny.

Mae gofyn i bobol wisgo mygydau yn Wrecsam os nad oes modd iddyn nhw gadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Trwy wahoddiad yn unig y gall pobol fynd i wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, tra bydd y gwasanaeth yn cael ei ffrydio ar y we.

Mae’r ffyrdd ynghau yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi ar gyfer digwyddiadau ger cofebau rhyfel y ddwy dref.

Neges

“Heddiw, ar Sul y Cofio, talwn deyrnged i bob un sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel a gwrthdaro,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

“Dylai coffadiadau roi cyfle i adlewyrchu, i aros am ennyd a chofio’r rheiny sydd wedi dioddef a sydd wedi marw mewn rhyfeloedd trwy gydol ein hanes. Nid amser i ddathlu yw hwn, dim ond amser i fyfyrio yn dawel.

“Cofiwn a chefnogwn rheini sydd wedi ymladd mewn gwrthdaro wrth inni ymdrechu tuag at ddyfodol o heddwch a ffyniant – gan addo na fydd ein plant byth eto yn gorfod wynebu erchyllion rhyfel fel cenedlaethau’r gorffennol.”