Wythnosau ers y gyflafan waethaf erioed yn un o garchardai Ecwador, mae o leiaf 68 o garcharorion wedi cael eu saethu’n farw yn dilyn brwydro ffyrnig ymysg ei gilydd.

Fe wnaeth y frwydr yng ngharchar Litoral yn ninas Guayaquil bara bron i wyth awr.

Yn ôl swyddogion y carchar, gangiau cyffuriau rhyngwladol oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.

Mae fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cyrff ar lawr, a rhai ohonyn nhw wedi cael eu llosgi.

Yn ôl llywodraethwr y carchar, defnyddiodd y carcharorion ffrwydron i geisio dymchwel wal.

Roedd gan rai o’r carcharorion ddryllau a ffrwydron yn eu meddiant yn y carchar.

Cafodd argyfwng ei gyhoeddi fis Hydref y llynedd wrth i awdurdodau Ecwador geisio mynd i’r afael â rhoi pwerau i’r awdurdodau frwydro yn erbyn cludo cyffuriau a throseddau eraill.

Rai wythnosau yn ôl, cafodd o leiaf 118 o garcharorion eu lladd yn y carchar yn dilyn brwydr arall rhwng gangiau.

Collodd o leiaf bump o’r rhai a gafodd eu lladd eu pennau yn y digwyddiad.

Fis Chwefror eleni, cafodd 79 o garcharorion eu lladd mewn brwydrau mewn sawl carchar ar yr un pryd.

Mae mwy na 300 o bobol wedi marw mewn brwydrau yng ngharchardai’r wlad eleni.