Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi cyhuddo Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o “beidio â chadw at y rheolau”.
Daeth ei sylwadau wrth iddi amddiffyn Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, sydd dan y lach am ddefnyddio’i swyddfa yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfer galwadau Zoom ag aelodau’r cyhoedd ac am hawlio gwerth £100,000 o ffïoedd cyfreithiol ers dod yn aelod seneddol.
Mae amheuon a oedd y defnydd o Zoom at y pwrpas hwnnw o fewn y rheolau ar gyfer gwleidyddion.
“Mae’r prif weinidog hwn wedi caniatáu i lygredd a slebogeiddiwch ddod i mewn i’n gwleidyddiaeth,” meddai Angela Rayner wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.
“Mae £3.5bn wedi cael ei roi mewn cytundebau i roddwyr Torïaidd a ffrindiau Torïaidd, a chost o £9m o roddion i’r Blaid Geidwadol, rhaid datrys hyn.
“Mae Keir Starmer wedi ildio’i dystysgrif i ymarfer [fel cyfreithiwr] ac rydyn ni wedi bod yn glir iawn, a fydda i ddim yn derbyn, rywsut, os ydych chi’n edrych ar y sawl sydd â lobïwyr, sydd â chytundebau ar gyfer ymgynghori a sut mae’r drws symudol rhwng cyn-brif weinidogion yn lobïo’r llywodraeth, yr arian sydd wedi’i wastraffu, arian trethdalwyr sydd wedi’i wastraffu ar gytundebau amheus, mae’n gwbl hurt ac mae’r slebogeiddiwch, y sgandal a’r llygredd wedi tanseilio ein democratiaeth ni.
“Mae’r cyhoedd Prydeinig yn gwerthfawrogi’r tegwch a chadw at y rheolau.
“Dydy Boris Johnson ddim yn cadw at y rheolau, mae e wedi torri’r rheolau ar sawl achlysur ac wedi caniatáu i’w weinidogion [dorri’r rheolau], mae hyn wedi tanseilio ein democratiaeth ac mae angen iddo fod yn fwy glân.”