Mae pôl piniwn newydd yn Iwerddon yn dangos bod Sinn Fein ar y blaen o 16 pwynt.

Mae arolwg o Ymddygiad ac Agweddau ar ran The Times yn gosod y blaid fwyaf poblogaidd ar 37%, tra bod Fine Gael ar 21% a Fianna Fáil ar 20%.

Mae gan y Blaid Werdd bum pwynt canran, tra bod gan Lafur a’r Democratiaid Sosialaidd dri phwynt canran yr un.

Mae gan Solidarity/People Before Profit ac Aontu un pwynt canran yr un.

Mae’n golygu bod Sinn Fein wedi codi chwe phwynt canran ers y pôl diwethaf, does dim newid yn sgôr Fine Gaerl, tra bod Fianna Fáil wedi gostwng triphwynt.

Mary Lou McDonald, arweinydd Sinn Fein, yw’r arweinydd mwyaf poblogaidd ar 50%, naw pwynt canran ar y blaen i’r Taoiseach Micheal Martin (41%).

Dydy sgôr Leo Varadkar, arweinydd Fine Gael, ddim wedi newid (39%).

Mary Lou McDonald yw’r arweinydd mwyaf poblogaidd ymhlith pobol o dan 35 oed hefyd, gyda 59% yn dweud eu bod nhw’n fodlon â’i pherfformiad.

Roedd ganddi sgôr bodlonrwydd o 44% hefyd ymhlith pobol sy’n dweud y byddan nhw’n pleidleisio dros Fianna Fáil.

Cafodd yr arolwg o 912 o bleidleiswyr Gwyddelig ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb yn y cartref rhwng Hydref 28 a Thachwedd 9.