Drannoeth y rali Nid Yw Cymru Ar Werth ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd (dydd Sadwrn, Tachwedd 13), mae ymgyrchwyr yng Nghernyw wedi ymgynnull yn Porthleven i drafod yr un pwnc yn y fan honno.
Maen nhw’n dod ynghyd o dan yr enw Cartrefi Cyntaf Nid Ail Gartrefi.
Mae lle i gredu bod oddeutu 9% o gartrefi Porthleven yn ail gartrefi, gyda rhyw 140 o gartrefi ychwanegol ar gael ar wefan Airbnb a llawer mwy i’w rhentu drwy Rightmove.
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth i’r amlwg mai Cernyw yw’r cyrchfan mwyaf poblogaidd i bobol o Lundain sy’n chwilio am ail gartrefi.
Yn ôl Hamptons, y gwerthwyr tai, roedd 14.9% o bobol o Lundain a brynodd ail gartref dros y flwyddyn ddiwethaf wedi prynu eiddo yng Nghernyw.
Ar y cyfan, mae Llundeinwyr wedi prynu gwerth £114m o eiddo yng Nghernyw ers dechrau’r flwyddyn.
Ymhlith y siaradwyr yn y rali mae Loveday Jenkins o blaid Mebyon Kernow.
Messages from the Porthleven Protest
Great to send representatives!#firstnotsecondhomes#YesKernow pic.twitter.com/PjCSPPHdH7
— YesKernow 〓〓 (@Yes_Kernow) November 14, 2021
Rali Caerdydd
Ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 13), daeth o leiaf 1,000 o bobol ynghyd ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd i alw am weithredu brys ynghylch sefyllfa ail gartrefi Cymru.
Roedden nhw’n galw am Dddeddf Eiddo i reoli prisiau tai a rhent fel eu bod fforddiadwy i bobol sy’n byw ar incwm lleol.
Ymhlith y siaradwyr yn y brifddinas roedd Ali Yassine, Rhys Tudur o’r ymgyrch Hawl i Fyw Adra, a Mabli Siriol Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae pobol yn gweld anghyfiawnder y system tai a chynllunio yn eu bywydau bob dydd, ymhob rhan o’r wlad,” meddai Mabli Siriol Jones yn ei hanerchiad.
“Nid yw’n iawn bod yna rai gyda mwy nag un tŷ, tra bod eraill yn ddigartref.
“Mae’r dystiolaeth yn glir — boed hynny’r bobol sy’n gorfod dewis rhwng talu am wres neu rent; y bobol ifanc sy’n gorfod gadael eu cymuned i allu fforddio cartref; neu’r bobol sy’n gweld bywyd eu cymunedau yn edwino o ganlyniad i dai moethus sy’n aros yn wag am ran fwyaf y flwyddyn.
“Y farchnad rydd yw craidd y problemau Cymru-gyfan hyn, sy’n amlygu eu hunain mewn amryw o ffyrdd yn ein cymunedau.
“Ond canlyniad penderfyniadau gwleidyddol yw hyn, ac mae modd gwneud pethau’n wahanol.
“Rydyn ni wedi ennill o’r blaen, ac os tynnwn ni ynghyd fel cymunedau ac ymgyrchwn ni’n galed, gwelwn ni, yn hwyr neu’n hwyrach, gyfundrefn tai ac eiddo wedi’i thrawsnewid. Gyda’n gilydd mae’r grym gyda ni.”