Mae Llywodraeth Awstria wedi cyflwyno cyfnod clo yn y wlad i’r rhai sydd heb eu brechu.

Daw’r camau wrth i’r llywodraeth geisio mynd i’r afael â chynnydd sydyn mewn achosion o Covid-19.

Mae’n golygu na fydd hawl gan bobol dros 12 oed i adael eu cartrefi o ganol nos heno (nos Sul, Tachwedd 15) oni bai eu bod nhw’n mynd i’r gwaith, yn mynd i siopa am fwyd, yn mynd am dro neu’n mynd i gael eu brechu.

Mae pryderon na fydd ysbytai’n gallu ymdopi â’r cynnydd sydyn a sylweddol yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn â Covid-19.

Mae lle i gredu y bydd y cyfnod clo yn effeithio ar ryw chwarter y boblogaeth, ac mae disgwyl i’r cyfyngiadau bara am ddeng niwrnod yn y lle cyntaf.

Mae gofyn i’r heddlu wirio bod unrhyw un yn yr awyr agored wedi cael eu brechu.

Mae gan Awstria un o’r cyfraddau brechu isaf yng ngorllewin Ewrop, gyda dim ond 65% o’r boblogaeth wedi cael dau ddos.

Roedd 11,552 o achosion newydd heddiw (dydd Sul, Tachwedd 14) – i fyny o 8,554 yr wythnos ddiwethaf.

Y gyfradd wythnosol yw 775.5 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth – 289 yw’r gyfradd yn yr Almaen, sydd eisoes yn nodi cynnydd sydyn a sylweddol yn eu hachosion nhw hefyd.