Bydd angen pasys Covid er mwyn cael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru o heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15).
Y bwriad wrth ymestyn eu defnydd yw cryfhau’r mesurau sydd mewn grym er mwyn ceisio rheoli lledaeniad Covid-19 a chadw busnesau ar agor.
Pleidleisiodd 39 Aelod o’r Senedd o blaid ymestyn y pasys Covid, a dim ond 15 yn erbyn.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Chwaraeon a’r Celfyddydau, fod achosion coronafeirws yng Nghymru yn “uchel iawn” ar hyn o bryd, ac “rydyn ni angen gweithio gyda’n gilydd i ddod â nhw dan reolaeth”.
“Mae ymestyn defnydd y pasys Covid i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ffordd arall i gryfhau’r mesurau sydd gennym ni mewn grym ar y funud i’n cadw ni’n ddiogel,” meddai.
“Dw i’n deall yr heriau mae’r sector wedi’u hwynebu’n ystod y pandemig – bydd hyn yn helpu busnesau i aros ar agor yn ystod misoedd anodd yr hydref a’r gaeaf sydd o’n blaenau.
“Rydyn ni eisiau gwneud popeth allwn ni i gadw Cymru ar agor a chadw Cymru’n ddiogel, ac i roi hyder i bobol ddychwelyd i’r lleoliadau hyn.”
Adborth cadarnhaol
Cafodd y pàs Covid ei gyflwyno fis yn ôl er mwyn i bobol gael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr – er bod y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu ar y pryd.
Mae modd cael y pàs Covid drwy ddangos eich bod chi wedi cael eich brechu, neu drwy gael prawf llif unffordd negyddol yn y 48 awr ddiwethaf.
Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod yr adborth gan leoliadau sydd eisoes yn defnyddio’r system wedi bod yn gadarnhaol.
“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r sectorau sy’n cyflwyno’r pas er mwyn eu cefnogi nhw,” meddai.
Cafodd protestiadau eu cynnal tu allan i’r Senedd yn erbyn cyflwyno’r pasys, ac mae grŵp ymgyrchu Big Brother Watch wedi dechrau her gyfreithiol yn erbyn cyflwyno’r pasys.