Bydd pasys Covid yn cael eu cyflwyno mewn sinemâu a theatrau yng Nghymru yn dilyn pleidlais yn y Senedd heno (nos Fawrth, Tachwedd 9).

Fe bleidleisiodd 39 Aelod o’r Senedd o blaid, a dim ond 15 yn erbyn.

Mae hyn yn golygu y bydd pobol dros 18 oed yn gorfod cyflwyno pàs Covid cyn cael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Bydd y pàs yn dod i rym ar 15 Tachwedd.

Roedd disgwyl i’r mesurau gael eu pasio wedi i Blaid Cymru gyhoeddi ar yr unfed awr ar ddeg eu bod nhw’n bwriadu cefnogi’r mesur.

Mae angen cymorth o leiaf un gwleidydd gwrthbleidiol ar y Llywodraeth i ennill pleidleisiau.

Pasys Covid

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobol ddangos eu pas Covid er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.

Roedd protestiadau yn erbyn cyflwyno pasys Covid y tu allan i’r Senedd cyn i’r bleidlais gael ei chynnal.

Mae cyflwyno pasys Covid wedi bod yn destun ffraeo ar lawr y Siambr ers y bleidlais dyngedfennol fis diwethaf.

Yn y bleidlais honno, fe bleidleisiodd Aelodau o’r Senedd o drwch blewyn (28 o blaid, 27 yn erbyn) i gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru.

‘Ddim yn benderfyniad hawdd’

Mae Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn cydnabod nad yw’r penderfyniad i gyflwyno mesurau pellach wedi ei groesawu â breichiau agored gan y sector lletygarwch.

“Ond gadewch imi ddweud wrthych na chafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn hawdd, ac mae’r lleoliadau hyn wedi’u dewis oherwydd eu bod dan do ac maent yn gweld nifer fawr o bobol yn ymgynnull yn agos gyda’i gilydd am gyfnod hir,” meddai.

“Po fwyaf o bobol sy’n agos at ei gilydd, yn enwedig dan do, po fwyaf yw’r risg o drosglwyddo.”

Ar hyn o bryd, y gyfradd trosglwyddo Covid-19 yng Nghymru yw 527 ym mhob 100,000.

Yn y bleidlais ddiwethaf, fe bleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn mesur y Llywodraeth ar sail diffyg tystiolaeth ac effeithiolrwydd y pasys.

Ond fe ddywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, ei fod yn cefnogi’r mesur hwn ar sail tystiolaeth newydd sydd wedi’i darparu gan Lywodraeth Cymru ac ymchwil gan Goleg Imperial Llundain.

Ond mae’n mynnu bod angen gwneud mwy na chario pas Covid yn unig, gan ddweud bod angen i’r Llywodraeth “gryfhau” eu negeseuon ynghylch “gwisgo mwgwd, sicrhau awyr iach, cadw pellter ac ati, sydd yn dal yn gwbl allweddol yn y frwydr yn erbyn y feirws”.

Gwrthwynebus

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn y mesur ar sail eu cred fod pasys yn cyfyngu ar ryddid personol ac yn rhwystr i fusnesau.

“Ni ddylid eu ehangu i safleoedd eraill ac ni ddylid bod wedi eu cyflwyno na’u rhoi ar y bwrdd yn y lle cyntaf,” meddai Darren Millar, yr Aelod dros Orllewin Clwyd.

“Mae pasbortau brechu yn aneffeithiol ac yn wrth-fusnes; maent yn cyfyngu ar ein rhyddid ond nid ydynt yn cyfyngu ar ledaeniad COVID-19.”

Gwnaeth Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd bleidleisio yn erbyn y mesur.

“Does dim unrhyw dystiolaeth yn profi eu bod yn gweithio i leihau’r trosglwyddiad nac i wella’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn,” meddai ar lawr y Siambr.

Nododd hefyd nad oes llinell derfyn i basys Covid sy’n amlinellu pryd yn union fydd eu defnydd yn dod i ben.

Yn ogystal, noddodd mai mater o egwyddor a rhyddid personol oedd sail ei phenderfyniad.

“Yn syml iawn, nid wyf yn credu y dylai pobol orfod darparu data meddygol i ddieithryn llwyr nad yw’n glinigwr iddynt.”

‘Nid yw Covid wedi diflannu’

“Rwy’n falch fod y defnydd ehangach wedi’i gymeradwyo heddiw yn sgil y bleidlais,” meddai Eluned Morgan wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais.

“Nid yw Covid wedi diflannu – mae’r achosion yn parhau’n uchel ac mae angen inni barhau i gymryd camau i ddiogelu Cymru.

“Un mesur ymhlith llawer yw pàs COVID y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i helpu i gadw busnesau’n agored a helpu i reoli lledaeniad y feirws yr un pryd.

“Nid yw’r penderfyniad i’w cyflwyno wedi’i wneud ar chwarae bach. Lleoliadau dan do yw’r rhai sydd dan sylw, lle mae nifer fawr o bobol yn crynhoi yn agos at ei gilydd am gyfnodau estynedig.

“Ers Hydref 11, mae’n ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu ganlyniad prawf llif unffordd negatif diweddar i fynd i glybiau nos a lleoliadau tebyg ac i ddigwyddiadau, ac mae’r drefn yn gweithio’n dda.

“Rydyn ni wedi cael sylwadau cadarnhaol gan amryw o fusnesau a threfnwyr digwyddiadau mawr, gan gynnwys ar ôl y gemau rygbi rhyngwladol diweddar.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sectorau sy’n gweithredu’r cynllun i’w cefnogi orau y gallwn.”

‘Hynod siomedig’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dweud eu bod nhw’n “hynod siomedig” yn dilyn y bleidlais.

“Yr un yw ein barn o hyd, sef fod y system yn anrhyddfrydol ac yn anweithredadwy, a dydyn ni ddim wedi cael tystiolaeth i’r gwrthwyneb,” meddai’r blaid mewn datganiad.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi torri ymddiriedaeth drwy ehangu cynllun a nododd ar y cychwyn oedd am amgylchiadau cyfyng iawn.

“Er gwaethaf ceisiadau i’r Gweinidog Iechyd, dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod y cynllun wedi bod yn effeithiol wrth gadw nifer yr achosion i lawr.

“Ni fu tystiolaeth chwaith ynghylch pam fod sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd dan sylw yn benodol.

“Mae uned gynghori’r Llywodraeth a’r Prif Swyddog Meddygol, ill dau, wedi cyfaddef yn ystod yr wythnos ddiwethaf fod effaith y cynllun yn debygol o fod yn fach iawn.

“Mae’r effaith y caiff y penderfyniad hwn ar fusnesau bach ledled Cymru’n destun cryn bryder, a thros yr wythnosau diwethaf, mae nifer o sinemâu a theatrau cymunedol wedi cysylltu â ni i fynegi eu pryder ynghylch sut mae disgwyl iddyn nhw gyflogi staff newydd i orfodi’r cynllun hwn heb unrhyw gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

“Y tu hwnt i oblygiadau ymarferol y cynllun hwn, mae yna enghraifft o hyd o ddeddfu gwael heb gyfnod adolygu penodol. Am ba hyd fydd y pasys yn eu lle? Ble a phryd fyddan nhw’n cael eu hymestyn nesaf?

“Fe fydd canlyniadau ariannol difrifol pe bai’r cynllun yn cael ei ehangu i ffurfiau eraill ar letygarwch gan gynnwys bwytai a chaffis.

“Gallem hefyd fod yn yr un sefyllfa â’r Eidal, sydd bellach wedi mandadu pasys Covid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.”

Beirniadu’r gwrthbleidiau eraill

Mae Jane Dodds hefyd wedi beirniadu’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru.

“Yn olaf, rwy’n ei chael yn gwbl ragrithiol i’r Ceidwadwyr esgus mai nhw yw’r rhai sy’n gwarchod rhyddid sifil a pholisi ar sail tystiolaeth pan fo’u plaid ar hyn o bryd yn ceisio gwthio cardiau adnabod i bleidleiswyr, yn groes i’r holl dystiolaeth sy’n dangos ei fod yn aneffeithiol a diangen,” meddai.

“Yn eu tro pedol, mae Plaid Cymru hefyd wedi dangos i ni heddiw na fyddan nhw ond yn sefyll i fyny dros werthoedd rhyddfrydol pan fo’n addas iddyn nhw’n wleidyddol.

“Dydy’r ffeithiau ar lawr gwlad ddim wedi newid o gwbl ers i’r bleidlais ddiwethaf gael ei chynnal.

“Oni bai bod Plaid Cymru’n gwybod rhywbeth nad yw’r gweddill ohonom yn ei wybod, does dim rheswm pam ddylen nhw fod wedi newid eu meddyliau.

“Mae parodrwydd Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr i sefyll i fyny dros werthoedd rhyddfrydol a rhyddid sifil pan fo’n addas iddyn nhw yn dangos orau yn union pam fod angen y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn y Senedd.”

 

Protestiadau pasys Covid cyn pleidlais ar ymestyn y cynllun i theatrau a sinemâu

Jacob Morris

Mae Plaid Cymru wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r cynlluniau

Y Senedd yn pleidleisio o blaid cyflwyno pasys Covid yng Nghymru

Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais dyngedfennol ymysg problemau pleidleisio a phrotestiadau y tu allan i’r Senedd

“Nerfusrwydd a rhwystredigaeth” ymhlith staff oedd methu gadael y Senedd oherwydd protest

Protestwyr wedi ymgynnull y tu allan i adeilad Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd wedi’r bleidlais dros gyflwyno pas Covid yng Nghymru