Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa newydd gwerth £1m i gefnogi busnesau lleol.

Dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, y bydd y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol yn cefnogi busnesau mewn rhannau o economi ‘bob dydd’ Cymru.

Mae’n bwriadu gwneud hyn drwy ddarparu mwy o nwyddau a gwasanaethau’r sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod pedair o bob deg swydd, a £1 ym mhob £3 sy’n cael ei wario, yn perthyn i’r sector hwn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y gronfa newydd yn cael ei defnyddio i:

  • Fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio presennol ym maes gofal cymdeithasol, gyda rhaglen genedlaethol a fydd yn canolbwyntio ar leihau costau recriwtio ac yn cynnig cyfleoedd dychwelyd i’r gwaith i’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o gyflogaeth a’r rhai sy’n wynebu newidiadau annisgwyl mewn bywyd, megis diswyddo.
  • Cynyddu faint o fwyd o Gymru sy’n cael ei weini ar blatiau cyhoeddus drwy gynorthwyo cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol i ennill achrediadau sydd eu hangen i gael mynediad at gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus.
  • Cyflwyno cynlluniau i gefnogi busnesau lleol i ennill contractau i gyflawni’r rhaglen ôl-osod orau a lleihau ôl troed carbon tai.

‘Cryfhau’r economi’

“Bydd y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol rwy’n ei chyhoeddi heddiw yn cefnogi busnesau mewn rhannau o’n heconomi bob dydd lleol i ddarparu mwy o’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref,” meddai Vaughan Gething.

“Ein heconomi bob dydd lleol yw’r piler sy’n diogelu ein cymunedau.

“Mae’r cyfraniad y mae’n ei wneud at les pobol ledled Cymru yn hollbwysig.

“Daeth hyn yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen yn ystod pandemig y coronafeirws.

“Mae meithrin yr economi bob dydd yn flaenoriaeth drawslywodraethol ac yn agwedd allweddol ar ein Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi.

“Rydym am greu lleoedd llewyrchus ledled Cymru, lleoedd lle y gall pobol ifanc wireddu eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial, mannau lle y gall unrhyw un lansio a datblygu busnes ffyniannus.

“Bydd cryfhau ein heconomi bob dydd lleol yn gwella ac yn cyfoethogi cyfleoedd cyflogaeth, gan ein galluogi i ganolbwyntio ar gadw doniau Cymru yng Nghymru a diogelu economïau ein cymunedau.”