Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth newydd i gefnogi’r diwydiant pysgota yng Nghymru.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 10), bydd Cefin Campbell, llefarydd materion gwledig ac amaethyddiaeth Plaid Cymru yn y Senedd, yn rhybuddio bod gweithgarwch pysgota masnachol mewn peryg o “ddiflannu’n llwyr”.

Bydd yn galw am strategaeth i ddiogelu’r diwydiant yn y dyfodol er mwyn caniatáu iddo barhau i gyfrannu at economi Cymru.

Mae nifer y pysgod sy’n cael eu dal a’u docio yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.

Yn 2012, gollyngodd llongau’r Deyrnas Unedig 26,000 tunnell o bysgod ym mhorthladdoedd Cymru.

Gostyngodd hynny  i 15,000 tunnell gan longau ym mhob rhan o’r fflyd yn 2016, ac i 9,600 tunnell yn 2020, gyda fflyd Gwlad Belg yng Nghymru yn cyfrif am draean o hyn.

Dim ond 4,337 tunnell oedd yn glanio ym mhorthladdoedd Cymru yn 2020.

‘Bygythiad economaidd a diwylliannol’

“Mae treftadaeth bysgota gyfoethog yng Nghymru, ac mae’r rhai sy’n gweithio o fewn y sector yn cyfrannu’n economaidd at ein hardaloedd gwledig ac arfordirol,” meddai Cefin Campbell.

“Ond mae’r pwysau ar y sector a’r dirywiad mewn gweithgarwch pysgota masnachol yn golygu bod perygl i’r diwydiant ddiflannu yn llwyr.

“Mae nifer o gyfleoedd wedi’u colli dros y deng mlynedd diwethaf i ddarparu trefn polisi pysgodfeydd gwell i Gymru.

“Mae angen diweddaru strategaethau sydd wedi dyddio os ydym am ddiogelu ein sector pysgodfeydd yn y dyfodol, gan eu galluogi i gyfrannu at economi Cymru, a chwarae eu rhan yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

“Byddai strategaeth bysgota effeithiol sy’n ystyried yr hinsawdd yn lleihau’r allyriadau carbon sy’n dod yn uniongyrchol o bysgota Cymru; a gwella bioamrywiaeth forol drwy leihau’r difrod o arferion pysgota anghynaladwy.

“Mae angen strategaeth arnom i gefnogi sector pysgota bywiog, cynaliadwy a hyfyw yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon, a heb oedi pellach.

“Bydd effaith peidio â gwneud hynny yn cael ei deimlo yn economaidd ac yn ddiwylliannol, yn ogystal ag amharu ar y gadwyn cyflenwi bwyd.”