Yn yr Unol Daleithiau, mae barnwr wedi gwrthod cais y cyn-Arlywydd Donald Trump i atal cofnodion rhag cael eu rhyddhau i un o bwyllgorau’r Gyngres sy’n ymchwilio i’r terfysg yn Capitol Hill ar 6 Ionawr.
Dywedodd y barnwr Tanya Chutkan bod diddordeb cyhoeddus sylweddol i gael mynediad at y cofnodion a allai roi mwy o wybodaeth am y terfysg treisgar ymhlith cefnogwyr y cyn-arlywydd.
Ychwanegodd bod gan yr Arlywydd Joe Biden yr awdurdod i ryddhau’r cofnodion er bod Donald Trump wedi dadlau eu bod wedi’u hamddiffyn o dan bolisi cyfrinachedd y Tŷ Gwyn.
Nid yw Donald Trump “yn cydnabod y parch sy’n ddyledus” i farn Joe Biden fel yr arlywydd presennol, meddai Tanya Chutkan.
Mae’r Archifau Cenedlaethol yn bwriadu cyflwyno cofnodion Donald Trump i’r pwyllgor erbyn dydd Gwener. Ond mae cyfreithwyr Donald Trump wedi dweud y byddan nhw’n apelio yn Llys Apêl yr Unol Daleithiau. Mae’n debyg y gallai’r achos fynd i’r Goruchaf Lys yn y pendraw.
Mae pwyllgor y Gyngres yn ymchwilio i ymddygiad Donald Trump ar 6 Ionawr yn ogystal a’i ymdrechion yn y misoedd cyn y terfysg i herio canlyniadau’r etholiad neu atal trosglwyddiad grym yn heddychlon.
Mae’r pwyllgor wedi cyfweld mwy na 150 o dystion ac mae 30 wedi cael eu gwysio i ymddangos gerbron y pwyllgor.
Cafodd pump o bobl eu lladd yn y terfysg yn Capitol Hill yn Washington a chanoedd o rai eraill eu hanafu. Cafodd Donald Trump ei feirniadu am annog ei gefnogwyr ar gyfryngau cymdeithasol i “frwydro” yn erbyn yr hyn roedd o’n ei weld fel cynllwyn i dwyllo canlyniadau’r etholiad.