Fe allai cyn-weinidog y Cabinet, Syr Geoffrey Cox wynebu ymchwiliad gan gomisiwn safonau Tŷ’r Cyffredin.
Daw hyn yn sgil honiadau ei fod wedi “torri’r rheolau” drwy ddefnyddio ei swyddfa seneddol ar gyfer ei ail swydd fel ymgynghorydd cyfreithiol.
Adroddodd The Times fod y cyn-Twrnai cyffredinol, sydd wedi wynebu beirniadaeth dros ei enillion allanol, wedi defnyddio ei swyddfa yn San Steffan i wneud gwaith ymgynghorol i Ynysoedd y Wyryf Prydeinig mewn ymchwiliad llygredd a lansiwyd gan y Swyddfa Dramor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Llafur Angela Rayner ei bod yn ymddangos bod y defnydd honedig o’r swyddfa yn “torri’ safonau” ac mae hi wedi ysgrifennu at y comisiynydd safonau Kathryn Stone yn gofyn iddi am “ganllawiau ar ddechrau ymchwiliad ffurfiol ar y mater hwn”.
Ychwanegodd Angela Rayner yn ei llythyr bod cod ymddygiad Aelodau Seneddol yn “glir iawn” bod cynrychiolwyr etholedig yn sicrhau bod “unrhyw gyfleusterau a gwasanaethau a ddarperir o’r pwrs cyhoeddus bob amser i gefnogi eu dyletswyddau seneddol”.
“Mae’n amlwg bod yr aelod wedi torri’r rheol hon yn seiliedig ar yr adroddiadau rydym wedi’u gweld yn y cyfryngau,” meddai.
“Rhaid i Aelodau fod yn glir na allant ddefnyddio’r ystâd er budd ariannol preifat a lle mae gwrthdaro mor amlwg â budd y cyhoedd, rhaid iddynt wynebu canlyniadau sylweddol.”
“Gwasanaethu eu hetholwyr”
Dangosodd y gofrestr ddiweddaraf o fuddiannau ariannol y bydd Syr Geoffrey Cox yn ennill mwy na £800,000 gan Withers, cwmni cyfreithiol rhyngwladol a benodwyd gan lywodraeth Ynysoedd y Wyryf Prydeinig ym mis Ionawr.
Datgelodd Syr Geoffrey Cox hefyd y bydd yn cael ei dalu £400,000 y flwyddyn o 28 Medi eleni am hyd at 41 awr o waith y mis.
Yng ngwrandawiad comisiwn ymchwiliad Ynysoedd y Wyryf Prydeinig ar 14 Medi, gellir clywed Syr Geoffrey Cox yn y recordiad ar-lein yn dweud wrth y comisiynydd: “Maddeuwch fy absenoldeb yn ystod peth o’r bore – mae arnaf ofn bod y gloch wedi canu.”
Roedd yn cyfeirio at y gloch yn San Steffan sy’n rhybuddio Aelodau Seneddol bod pleidlais ar fin cael ei chynnal.
Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod Boris Johnson yn credu mai “prif swydd Aelod Seneddol yw gwasanaethu eu hetholwyr a chynrychioli eu buddiannau yn y Senedd”.
Mae Syr Geoffrey Cox wedi dweud nad yw’n credu ei fod wedi torri rheolau Seneddol.