Bydd Dr. Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yn traddodi Darlith Goffa J.E. Caerwyn a Gwen Williams heno (nos Fercher, Tachwedd 10 ar Zoom am 5 o’r gloch), gan ddadlau bod yna wahaniaethau sylfaenol rhwng ffyrdd Cymraeg a Phrydeinig o ymdrin â threftadaeth.
Teitl y ddarlith yw “Yn dreftadaeth dragwyddol”? Presenoldeb ac absenoldeb y Gymraeg yn y dirwedd dreftadol.
Yn ôl crynodeb o’r ddarlith ar wefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n trefnu’r ddarlith goffa, “mae’r syniad bod yr iaith Gymraeg yn ffurfio rhan o dreftadaeth y Cymry wedi ei wreiddio’n ddwfn. Er hynny, prin yw’r ystyriaeth a roddwyd i bresenoldeb (ac absenoldeb) y Gymraeg yn y dirwedd ieithyddol gyfoes a hanesyddol”.
“Bydd y ddarlith yn edrych ar ymdriniaeth y Cymry ag arysgrifau, arwyddion ac enghreifftiau gweledol eraill o’r iaith fel rhan o dreftadaeth Cymru,” meddai’r grynodeb.
“Bydd yn dadlau bod modelau o dreftadaeth sydd wedi eu seilio ar dreftadaeth ‘gyffyrddadwy’ yn dal i ymylu’r Gymraeg, a bod effaith hynny i’w gweld mewn sawl man, gan gynnwys trafodaethau diweddar ar enwau lleol.”
Cyffyrddadwy v anghyffyrddadwy
Yn ôl Dylan Foster Evans, mae syniadau Prydeinig am dreftadaeth yn aml yn ymwneud â nodweddion ‘cyffyrddadwy’, gan gynnwys adeiladau crand fel y rhai sydd i’w gweld yn y gyfres deledu Downton Abbey. Ond mae treftadaeth y Gymru Gymraeg yn dueddol o roi mwy o bwys ar nodweddion ‘anghyffyrddadwy’.
“Mi fyddwn i’n dweud bod y ddealltwriaeth o dreftadaeth ar lefel Brydeinig yn aml yn canolbwyntio ar leoliadau a gwrthrychau yn unig, meddai wrth golwg360.
“Meddyliwch am adeiladau crand megis y rhai a welwn yn y gyfres Downton Abbey. Mae’r syniad o dreftadaeth yn tueddi i gylchdroi o gwmpas hynny, ac mae’r safbwynt hwnnw yn sicr i’w gael yng Nghymru hefyd.
“Ond mewn cyd-destun Cymraeg, rydan ni’n llawer iawn mwy tebygol o feddwl am dreftadaeth fel rhywbeth sy’n anghyffyrddadwy, hynny yw pethau na allwch chi gyffwrdd â nhw fel y cyfryw, megis traddodiadau llafar yr iaith Gymraeg, straeon gwerin, perfformiadau eisteddfodol, a phethau felly.
“Mae gwahaniaeth rhwng y cyd-destun Cymraeg a’r cyd-destun Prydeinig, er bod y syniad o genedlaetholdeb yn bwysig iawn i’r ddau.
“Ar lefel ryngwladol, mae’n drawiadol fod Prydain yn ymwrthod â chydnabod treftadaeth ‘anghyffyrddadwy’. Mae gan y corff diwylliannol ac addysgol rhyngwladol UNESCO gytundeb yn y maes yma, ond dewis Prydain – yn wahanol i Ffrainc ac Iwerddon, er enghraifft – yw cadw draw.
“Dydy Prydain ddim yn wladwriaeth sy’n cefnogi’r dull yma o feddwl am dreftadaeth.
“Felly, be’ dw i’n edrych arno fo wedyn ydy’r man cyfarfod rhwng y syniad Cymraeg yma am dreftadaeth sydd â’r iaith a chenedlaetholdeb yn ganolog iddo, a’r syniad mwy Prydeinig o dreftadaeth sy’n troi o gwmpas adeiladau a gwrthrychau trawiadol ac ati, ac sy’n tynnu ar fath arall o genedlaetholdeb.
“Mae yna wrthdaro rhwng y ddau ddull o feddwl, weithiau, yn enwedig mewn llefydd fel cestyll Edward I.
“Maen nhw’n llefydd amlwg ar gyfer gwrthdaro, a bu nifer o feirdd yn cwyno am sut mae’r cestyll yna’n cael eu dehongli gan gyrff cyhoeddus – er tegwch mae’r cyrff cyhoeddus wedi ymateb i hynny. Ond er y gwrthdaro mae rhyw gytundeb tawel mai’r rhain yw’r lleoliadau y mae angen eu trafod a’u cofio.”
Ble mae’r Gymraeg?
“Ond dw i hefyd yn edrych wedyn ar enghreifftiau o’r iaith Gymraeg yn y dirwedd, hynny yw lle mae’r Gymraeg yn digwydd, yn hytrach nag ar lafar, yn ysgrifenedig o’n cwmpas ni,” meddai wedyn.
“A minnau wedi fy ngeni a’m magu yn Nhywyn, mae Carreg Cadfan yn eglwys Cadfan yn Nhywyn yn enghraifft drawiadol. Ar y garreg hon y mae’r enghraifft gynharaf o’r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac o bosib yn y byd.”
Cafod y garreg ei dyddio i’r wythfed ganrif gan yr ysgolhaig Syr Ifor Williams ac yn fwy diweddar i’r nawfed ganrif gan yr Athro Patrick Sims-Williams. Felly mae ymhlith yr enghreifftiau cynharaf o Gymraeg ysgrifenedig.
Er bod cerdd i Garreg Cadfan gan Owain Owain ac un arall gan Myrddin ap Dafydd, go brin fod statws amlwg iddi yn y diwylliant Cymraeg.
Carreg Cadfan
“Prin bod unrhyw sylw yn cael ei roi i’r garreg o gwbl, sy’n drawiadol,” meddai Dylan Foster Evans.
“O fynd i’w gweld, does fawr ddim yno ar gyfer ymwelwyr, sy’n arwyddocaol iawn a ninnau’n genedl sy’n credu ein bod yn ymfalchïo yn ein hiaith a’i threftadaeth. Ond fyddwn i ddim am feio neb arall am hynny, a minnau yn frodor o’r dre’ a heb wneud dim fy hun!
“Be dw i’n ei ddadlau ydy hyn: oni bai bod yna naratif genedlaetholgar sy’n mynd benben â naratif Brydeinig – gallwn feddwl am Dryweryn a llefydd fel y cestyll Edwardaidd, ac i ryw raddau hyd yn oed Yr Ysgwrn a Hedd Wyn – mae yna duedd i anghofio elfennau o’n treftadaeth.”
Bydd y ddarlith hefyd yn rhoi sylw i ddarn o hanes lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
“Bydda’ i hefyd yn siarad am garreg fedd yn Sir Frycheiniog y gall mai hi yw’r garreg fedd gynharaf i berson o liw yng Nghymru, o leiaf ers cyfnod y Rhufeiniaid. Mae englyn Cymraeg arni ond eto, mae’r hanes hwnnw wedi cael ei anwybyddu bron yn llwyr, hyd y gwn i,” meddai.
“Mae’r holl gasgliad rhyfeddol o farddoniaeth sydd gennon ni mewn mynwentydd yn faes arall sy’n rhan o’n treftadaeth Gymraeg.
“Mae yna gasgliad rhyfeddol o filoedd ar filoedd o gerddi yn weledol yn ein cymunedau ni, er bod peryg o golli llawer ohonyn nhw.
“Mae’n dda o beth bod diddordeb wedi tyfu’n ddiweddar drwy gyfrwng grŵp Facebook ‘Englyn Bedd’, er enghraifft.
“Felly bydda i’n edrych ar y gofod yna rhwng y syniadau mawr ynglŷn â threftadaeth ym Mhrydain ac yng Nghymru ac yn gofyn y cwestiwn, ‘Ydyn ni, mewn gwirionedd, yn anwybyddu llawer iawn o’n treftadaeth ieithyddol am nad ydi hi’n cyd-fynd â naratifau ynglŷn â chenedlaetholdeb a gwrthdaro?”