Mae’r Senedd heno (Hydref 5) wedi pleidleisio o blaid cyflwyno pas Covid-19 yng Nghymru – a hynny wrth i brotestiadau ddigwydd y tu allan.

Fe bleidleisiodd aelodau o’r Senedd 28 o blaid i 27 yn erbyn cynnig Llywodraeth Cymru.

Roedd diswgyl y gallai’r ymdrech fethu wedi i Blaid Cymru benderfynu y bydde nhw yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yn gynharach heddiw.

Yn ôl Llefarydd Iechyd y Blaid, Rhun ap Iorwerth, nid oedd y llywodraeth wedi gwneud yr achos yn ddigonol dros eu cyflwyno.

Eisoes roedd y Ceidwadwyr Cymreig ac AoS y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi gwrthod y syniad o bas ar sail dadleuon moesol a rhyddid personol.

Ond fe gefnogwyd y mesur gan un bleidlais o blaid cynnig y llywodraeth.

Bydd nawr yn rhaid i bobl ddangos eu bod wedi’u brechu’n llawn neu wedi cael prawf negyddol diweddar wrth ymweld â digwyddiadau neu glybiau mawr o 11 Hydref ymlaen.

Problemau pleidleisio?

Gyda Llafur mewn lleiafrif ar lawr y Senedd roedd angen i o leiaf un Aelod o’r Senedd ymatal neu gefnogi’r mesurau i ennill y bleidlais, ac roedd adroddiadau fod un aelod wedi methu pleidleisio o bell.

Pe bai’r bleidlais wedi bod yn gyfartal, byddai wedi mynd at y Llywydd, Elin Jones, a fyddai wedi gorfod pleidleisio yn erbyn.

Deellir bod Mr Millar yn ymyrryd ar ran ei gydweithiwr Gareth Davies, AoS Dyffryn Clwyd – a’r awgrym gan rai AoSau yw nad oedd yn bresennol gan ei fod yng nghynhadledd y Torïaid ym Manceinion.

Serch hynny, rhyddhaodd y Ceidwadwyr ddatganiad yn galw am ddod â’r system bleildeisio hybrid i ben a chynnal pob pleidlais drwy fod “yn bresennol ar lawr y Senedd”.

Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, dywedodd Elin Jones fod pob ymgais i’w gael ar y feddalwedd berthnasol wedi digwydd “gan gynnwys rhannu fy ffôn personol”.

Y rheolau

Yn ôl y cynnig fe fydd y pas nawr yn orfodol ar gyfer:

  • I unrhyw un dros 18 oed sydd am fynd i glwb nos.
  • I fynd i ddigwyddiad sefyll tu fewn ar gyfer mwy 500 o bobl.
  • I fynd i ddigwyddiad ble mae angen sefyll tu allan ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • I fynd i unrhyw ddigwyddiad arall sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl.

‘Amddifadu’

Wrth gloi’r ddadl yn y cyfarfod llawn heddiw fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod y pasys yn greiddiol i gadw cyfraddau Covid i lawr wrth i fisoedd y gaeaf nesáu.

“Dydy Llywodraeth Lafur Cymru heb ystyried cyflwyno pas Covid fel hyn yn ysgafn. Mae wedi bod yn heriol ac roedd angen i ni ystyried y goblygiadau moesol, ymarferol a chyfreithiol o gyflwyno pas fel hyn,” meddai.

“Ond rydyn ni’n profi rhai o achosion uchaf a welsom ers dechrau’r pandmeig a hynny’n benodol ymysg pobl ifanc.

“Rydyn ni’n gwybod faint o bobl ifanc Cymreig a ddaeth nôl o Gernyw o ŵyl Boardmasters a gŵyl Reading a ddaeth a’r feirws gyda nhw a’i ledaenu.

“Ac os caf atgoffa’r Ceidwadwyr bod Lloegr yn cadw pas Covid yn rhan o arfogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth edrych tua’r gaeaf,” ychwanegodd.

“A dewch imi fod yn glir drwy beidio â chefnogi’r mesur heddiw, mi fydd hi’n weithred enfawr o amddifadu cyfrifoldeb o warchod i iechyd cyhoeddus”

Diffyg tystiolaeth

Yn ôl Rhun ap Iorwerth “Yn anffodus, mae’r rheoliadau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn codi mwy o gwestiynau nag y maen nhw’n eu hateb,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.

“Nid oes tystiolaeth ddigonol ac ychydig iawn o fanylion sydd ar sut y bydd yn gweithio’n ymarferol.”

Yn dilyn y bleidlais, dywedodd y Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds: “Mae’r bleidlais heddiw yn gosod cynsail beryglus ar gyfer deddfu gwael yma yng Nghymru ac mae’r llywodraeth yn gor-ymestyn yn ddiangen i mewn i’n hawliau sifil heb unrhyw dystiolaeth y byddant yn ein gwneud ni i gyd yn fwy diogel.”

Eisoes mae Lloegr wedi gwrthod cyflwyno pasys ond mae’r Alban yn bwriadu cyflwyno pasbortau brechu o 18 Hydref.

Protest

Bu protestio ar risiau’r Senedd yn ystod y dydd, ac mae golwg360 yn deall bod oddeutu hanner cant o’r protestwyr wedi symud yn nes ymlaen at ddwy fynedfa Tŷ Hywel (adeilad swyddfeydd y Senedd) gan atal Aelodau a staff rhag gadael am gyfnod, a chan ymddwyn yn fygythiol a gweiddi “shame on you” a “scum”.

Plaid Cymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn pas Covid-19

‘Yn anffodus, mae’r rheoliadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru heddiw yn codi mwy o gwestiynau nag y maent yn rhoi atebion’

Aelodau’r Senedd yn penderfynu a ddylai pasys Covid-19 fod yn orfodol

Dan y cynlluniau, byddai’n rhaid dangos y pas er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr o 11 Hydref ymlaen