Bydd y terfyn cyflymder y tu allan i Gastell Gwrych yn cael ei ostwng yn ystod ffilmio I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! ar ôl marwolaeth dynes gafodd ei tharo gan gar.

Clywodd cwest yn Rhuthun bod Sharn Hughes, 58, wedi mynd gyda’i gŵr David Elfyn Hughes, i weld y goleuadau ar Gastell Gwrych ar 21 Tachwedd y llynedd.

Mewn datganiad, dywedodd David Elfyn Hughes fod y cwpl, o Brestatyn, wedi parcio mewn culfan ar yr A547 tua 5yh am fod Mrs Hughes am dynnu llun o’r castell i’w hanfon at ffrind.

Roedd o yn cerdded o flaen ei wraig pan glywodd glec uchel.

“Roedd i’n credu bod Sharn eisoes wedi croesi’r ffordd ac wedi mynd i helpu,” meddai David Elfyn Hughes.

Clywodd llys y crwner fod Shaun Davies yn gyrru ei gar Volvo o Abergele pan gamodd Sharn Hughes, oedd yn gwisgo dillad tywyll, i ganol y ffordd o’i flaen.

Dywedodd yr ymchwilydd gwrthdrawiad fforensig Simon Richards wrth y llys ei bod yn annhebygol y gallai Shaun Davies fod wedi gwneud unrhyw beth i osgoi’r gwrthdrawiad wrth deithio ar gyflymder o 60mya.

Diogelwch

Ychwanegodd nad oedd llwybr troed ar y rhan honno o’r ffordd na goleuadau stryd chwaith.

Dywedodd Crwner dwyrain a chanol gogledd Cymru, John Gittins, fod prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Iwan Davies, wedi ysgrifennu ato yn amlinellu mesurau diogelwch ychwanegol a fyddai ar waith ar gyfer ffilmio’r gyfres eleni.

Roedd y rhain yn cynnwys terfyn cyflymder is o 30mya ar gyfer y ffordd hyd at, a thu hwnt, i leoliad y gwrthdrawiad.

Dywedodd teulu Sharn Hughes eu bod yn ddiolchgar am y newidiadau.