Mae Plaid Cymru wedi galw am “dâl teg” i weithwyr gofal iechyd gan ddweud bod codiad cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sydd ddim yn cyfateb i chwyddiant, yn “ergyd greulon” i staff, fydd â llai o arian yn eu poced.

Yn nadl y Senedd dan arweiniad Plaid Cymru heddiw (dydd Mercher, 6 Hydref), bydd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AoS, hefyd yn galw am weithredu “ystyrlon” gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phrinder gweithlu a morâl isel yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Plaid Cymru yn cynnig bod y Senedd:

  • Yn cefnogi ymdrechion Unite, Unsain a’r Coleg Nyrsio Brenhinol i sicrhau cyflog teg i bob gweithiwr gofal iechyd.
  • Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn ei thrafodaethau presennol â’r undebau gofal iechyd, i ymrwymo i godiad cyflog mewn termau real uwchlaw’r hyn a gynigiwyd gan gorff adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Cymorth ystyrlon”

“Mae gweithwyr gofal iechyd wedi gwneud aberth enfawr drwy gydol y pandemig, gan roi eu hunain mewn perygl i amddiffyn cleifion a threulio diwrnodau os nad wythnosau i ffwrdd o’u teuluoedd er mwyn gwneud eu gwaith,”  meddai Rhun ap Iorwerth AoS.

“Eu gwobr? Codiad cyflog is na chwyddiant, tra’n gweithio mwy i wneud iawn am brinder yn y gweithlu.

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ad-dalu’r ddyled honno drwy warantu tâl teg i bob gweithiwr gofal iechyd, gan ddarparu cymorth ystyrlon i wneud hyn yn opsiwn gyrfa ddeniadol i fwy o bobol, a sefydlu strategaeth gadarn.

“Mae dadl Plaid Cymru yn y Senedd yn gam pwysig tuag at wthio’r mater hollbwysig hwn i frig yr agenda gwleidyddol.”