Mae Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru wedi galw am bleidlais arall ar gyflwyno pasys Covid-19 yng Nghymru.

Pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd 28-27 o blaid y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) ddoe (5 Hydref).

Ond mae’n debyg nad oedd un aelod Ceidwadol wedi gallu pleidleisio oherwydd problem gyda’u cyswllt Zoom.

Pe bai’r bleidlais wedi bod yn gyfartal, byddai wedi mynd at y Llywydd, Elin Jones, a fyddai wedi gorfod pleidleisio yn erbyn. Bydd y pasys yn dod i rym ddydd Llun nesaf (11 Hydref).

Rhyddhaodd y Ceidwadwyr ddatganiad yn galw am ddod â’r system bleidleisio hybrid i ben a chynnal pob pleidlais drwy fod “yn bresennol ar lawr y Senedd”.

“Mae’n warth democrataidd na allai un AoS a oedd am bleidleisio, ac a fyddai wedi pleidleisio yn erbyn y cynigion, oherwydd camgymeriad technegol yn unig,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru.

“Bydd y llanast yma’n achosi hyd yn oed mwy o ansicrwydd i’n busnesau.

“Mae’n rhaid cynnal ail bleidlais ar frys fel bod modd mynegi ewyllys y Senedd yn deg a bod gan fusnesau rywfaint o eglurder ynglŷn â’r dyfodol.”

“Trychineb”

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dro pedol, ar ôl diystyru cyflwyno pasys Covid-19 yn y gorffennol.

“Mae ystod eang o oblygiadau moesegol, cydraddoldeb, preifatrwydd, cyfreithiol a gweithredol yn dod gyda phasbortau Covid,” meddai.

“Mae perygl gwirioneddol yma y gallai gweithredu pasys Covid fod yn drychineb llwyr.

“Yn yr Alban, rydym wedi gweld bod eu cyflwyno wedi bod yn drychineb ac roedd cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton yn llawn problemau o’u herwydd.”

Rhybuddiodd Russell George fod cyflwyno’r pasys yn peryglu creu cymdeithas ddwy haen gan nad oedd rhai pobol yn gallu cael eu brechu am resymau iechyd.

“Y cyhoedd ar ein hochr ni”

Mewn dadl cyn y bleidlais dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, fod y cyhoedd ar ochr y Llywodraeth ac am weld y pasys yn cael eu cyflwyno.

Rhybuddiodd fod Cymru’n wynebu rhai o’r cyfraddau heintio uchaf ers dechrau’r pandemig, yn enwedig ymhlith pobol ifanc, a bod rhaid i’r Llywodraeth weithredu i geisio atal y feirws rhag lledaenu.

“Bydd peidio â chefnogi’r mesur hwn heddiw (5 Hydref) yn weithred anghyfrifol o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru,” meddai.

“Bydd y mesur hwn yn caniatáu i’r cyfleusterau aros ar agor wrth i ni wynebu un o’r gaeafau mwyaf heriol erioed.

“Mae’r cyhoedd ar ein hochr ni ar hyn, ac maent yn eich gwylio yn y siambr hon heddiw ac rwy’n eich annog i gefnogi’r mesur hwn.”

“Dim digon o dystiolaeth”

Roedd wedi edrych yn debygol na fyddai’r bleidlais yn pasio yn gynharach yn y dydd pan gyhoeddodd Plaid Cymru ei bod yn bwriadu pleidleisio yn erbyn.

“Ers dechrau’r pandemig hwn, mae Plaid Cymru wedi bod yn barod i gefnogi cyflwyno ystod o fesurau i reoli a chyfyngu ar drosglwyddo’r feirws – hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle mae cyfyngiadau eithaf difrifol weithiau wedi’u gosod ar ein rhyddid.

“Pan rydym wedi cefnogi cyfyngiadau, rydym wedi ein hargyhoeddi bod y dystiolaeth yn glir ar yr effaith gadarnhaol y byddai’r mesurau hynny’n ei chael, ac y gellir eu gweithredu’n ymarferol.

“Yn anffodus, mae’r rheoliadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru heddiw yn codi mwy o gwestiynau nag y maent yn rhoi atebion.

“Nid oes digon o dystiolaeth ac ychydig o fanylion am sut y bydd yn gweithio’n ymarferol.

“Rydym wedi gofyn llawer o gwestiynau ac nid ydym wedi cael y sicrwydd rydym wedi’i geisio.

“A dyna pam y teimlwn na allwn gefnogi’r rheoliadau hyn heddiw.”

Y Senedd yn pleidleisio o blaid cyflwyno pasys Covid yng Nghymru

Llywodraeth Cymru wedi ennill pleidlais dyngedfennol ymysg problemau pleidleisio a phrotestiadau y tu allan i’r Senedd

Plaid Cymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn pas Covid-19

‘Yn anffodus, mae’r rheoliadau a gynigir gan Lywodraeth Cymru heddiw yn codi mwy o gwestiynau nag y maent yn rhoi atebion’