Fe fydd Boris Johnson yn cyhoeddi y bydd ei Lywodraeth yn newid cyfeiriad yr economi ac yn mynd i’r afael a’r heriau sydd wedi cael eu hosgoi gan lywodraethau’r gorffennol.
Yn ei araith i gynhadledd y Blaid Geidwadol, fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio amlinellu ei agenda i sicrhau tegwch, gan ddadlau bod rhoi hwb i rannau o’r wlad sydd wedi cael eu “gadael ar ôl” yn lleddfu’r pwysau ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
Mae disgwyl iddo amddiffyn ei gyfyngiadau ar weithwyr o dramor a hynny yn sgil argyfwng yn y gadwyn gyflenwi, diffyg sydd wedi golygu bod y lluoedd arfog wedi cael eu hyfforddi i gludo tanwydd, a rhybuddion am silffoedd gwag yn y siopau dros gyfnod y Nadolig.
Fe fydd yn dweud wrth ei blaid ym Manceinion bod y Llywodraeth “yn dechrau ail-lunio economi’r Deyrnas Unedig.”
“Uno a sicrhau tegwch”
Bydd yn dweud: “Nid ydym yn mynd yn ôl at yr un hen fodel gyda chyflogau isel, twf isel, sgiliau isel a chynhyrchiant isel, sydd wedi’i alluogi a’i gynorthwyo gan fewnfudo heb reolaeth.
“Yr ateb yw rheoli mewnfudo, caniatáu i bobl o dalent ddod i’r wlad hon ond nid defnyddio mewnfudo fel esgus dros fethu â buddsoddi mewn pobl, mewn sgiliau ac yn yr offer neu’r peiriannau sydd eu hangen arnynt i wneud eu swyddi.”
Bydd yn rhoi addewid i “uno a sicrhau tegwch” ar draws y Deyrnas Unedig, gan fynnu y bydd holl rannau’r DU yn elwa o’i gynlluniau.
Un o’r heriau fydd yn dod dan y chwyddwydr yn ei araith yw gofal cymdeithasol i oedolion ac mae’r Ceidwadwyr wedi rhoi addewid i adfer y gwasanaeth drwy gynyddu’r Yswiriant Cenedlaethol o 1.25%.
“Rhagrith”
Ond mae’r Prif Weinidog wedi’i gyhuddo o “ragrith” drwy alw am economi cyflog uchel.
Dywedodd Mick Lynch, ysgrifennydd cyffredinol undeb y gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT): “Mae’n rhagrithiol i’r Prif Weinidog siarad am economi cyflog uchel pan fydd yn rhewi cyflogau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys rhannau helaeth o’r sector trafnidiaeth.
“Mae yswiriant gwladol wedi cynyddu, mae chwyddiant wedi cynyddu ac mae’n bryd i’r Prif Weinidog weithredu, rhoi’r gorau i rewi cyflogau a rhoi’r codiad cyflog y maent yn ei haeddu i weithwyr allweddol Prydain.”
Galwodd undebau hefyd ar Boris Johnson i ddefnyddio ei araith yn y gynhadledd i wyrdroi’r toriad dadleuol i’r cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol, a ddaeth i ben heddiw (dydd Mercher, 6 Hydref).