Mae elusen wedi rhybuddio y bydd un plentyn bob eiliad ar gyfartaledd yn cael ei effeithio gan y toriad i Gredyd Cynhwysol dros y mis nesaf.

Mae Achub y Plant yn un o nifer o elusennau, melinau trafod, undebau ac arweinwyr o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol sy’n feirniadol o’r penderfyniad i ddileu’r cynnydd o £20 yr wythnos a gafodd ei roi i helpu pobl yn ystod y pandemig.

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn bwrw ymlaen â’r toriad er gwaethaf pryderon y bydd cannoedd o filoedd o bobol yn cael eu gadael mewn tlodi.

O ddydd Mercher (6 Hydref) ymlaen, ni fydd unrhyw asesiadau’n cynnwys y cynnydd, sy’n golygu na dderbynnir unrhyw daliadau o 13 Hydref sy’n cynnwys yr arian ychwanegol.

Mae ychydig dros 3.5 miliwn o blant yn y Deyrnas Unedig yn byw mewn cartrefi sy’n derbyn taliadau Credyd Cynhwysol, yn ôl ffigurau’r Llywodraeth.

Mae hyn yn cyfateb i 1.3 o blant yn cael eu heffeithio gan y toriad bob eiliad ar gyfartaledd dros y cyfnod o 31 diwrnod o 13 Hydref, meddai Achub y Plant.

“Creulon”

Dywedodd Gwen Hines, prif weithredwr Achub y Plant, fod dyfodol plant yn dibynnu ar y Llywodraeth yn adfer y taliadau.

Dywedodd: “Dros y mis nesaf, bydd pob eiliad sy’n pasio yn gweld plentyn arall yn cael ei wthio tuag at dlodi.

“Mae pobol rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn dweud wrthym eu bod wedi bod yn dibynnu ar y £20 yma i brynu hanfodion fel bwyd a dillad iddyn nhw eu hunain a’u plant.

“Hebddo, mae degau o filoedd yn fwy o blant yn wynebu gaeaf oer a llwglyd.”

Ychwanegodd Rachel Harrison, swyddog cenedlaethol undeb y GMB: “Roedd ein gweithwyr gofal yn peryglu eu hunain i gadw ein hanwyliaid yn fyw yn ystod y pandemig.

“Y wobr i lawer yw cael eu budd-daliadau mewn gwaith wedi’u torri £20 yr wythnos.

“Mae’n gam creulon gan Ganghellor sydd heb unrhyw gysyniad o’r heriau y mae pobol sy’n gweithio yn eu hwynebu.”

“Dros dro”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rydym wastad wedi bod yn glir mai dros dro oedd y cynnydd i Gredyd Cynhwysol.

“Fe’i cynlluniwyd i helpu pobol drwy’r sioc economaidd a’r tarfu ariannol yn ystod cyfnodau anoddaf y pandemig, ac mae wedi gwneud hynny.

“Bydd Credyd Cynhwysol yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i’r rhai sydd mewn gwaith ac allan o waith ac mae’n iawn i’r Llywodraeth ganolbwyntio ar ein Cynllun Swyddi, cefnogi pobol i ddychwelyd i’r gwaith a chefnogi’r rhai sydd eisoes wedi’u cyflogi i symud ymlaen ac ennill mwy.”