Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn wynebu “argyfwng”.

Dywed Paul Davies, arweinydd y blaid, fod angen i Lywodraeth Cymru “ddatrys problemau mewn rhannau eraill o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” er mwyn gallu mynd i’r afael â phroblemau’r Gwasanaeth Ambiwlans.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 9), ymddiheurodd Mark Drakeford wrth bensiynwr wnaeth orfod disgwyl am ddiwrnod a hanner am ambiwlans ar ôl cael strôc.

Roedd David Evans yn ei gartref ddiwedd mis Hydref pan gafodd strôc, gyda’r alwad gyntaf i’r gwasanaethau brys yn cael ei gwneud am 6:45yh.

Wnaeth yr ambiwlans ddim ei gyrraedd tan 7:45yb y bore canlynol.

Caiff galwadau coch eu cadw ar gyfer argyfyngau sy’n bygwth bywyd, ond dydyn nhw ddim yn cynnwys strôc.

Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed o 65% o alwadau coch yn cyrraedd y safle o fewn wyth munud.

Does dim targed ar gyfer galwadau oren na gwyrdd.

Pan ofynnodd Paul Davies a fyddai’n ystyried targedau ar gyfer galwadau oren, gwrthododd y Prif Weinidog ateb.

‘Argyfwng’

“Rwy’n falch o glywed y Prif Weinidog yn mynegi edifeirwch am y dioddefaint sydd wedi digwydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Gwasanaeth Ambiwlans,” meddai Paul Davies.

“Ond tra bod ymddiheuriadau’n bwysig, gweithredu ar frys er mwyn atal achosion tebyg rhag codi yn y dyfodol yw’r nod y mae pobol yn ei ddymuno.

“Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans mewn argyfwng, ac i fynd i’r afael ag e, mae angen i ni ddatrys problemau mewn rhannau eraill o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae hyn yn golygu ymgyrch i gynyddu gwybodaeth ac annog defnydd o unedau mân anafiadau yn ogystal â gweithredu o’r diwedd ar ein galwadau hirdymor am ganolfannau llawfeddygol rhanbarthol i fynd i’r afael ag ôl-groniad enfawr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae Cymru unwaith eto’n mynd i’r gaeaf gyda gwasanaeth iechyd ar y dibyn.

“Nid ydym am fod yma eto’r flwyddyn nesaf yn gofyn am ymddiheuriad arall am achos ofnadwy arall.

“Rhaid i Lafur weithredu o’r diwedd a mynd i’r afael â phroblem sydd wedi dod yn endemig yn ein gwasanaethau cyhoeddus dros y 22 mlynedd diwethaf.”

‘Heriau parhaus’

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fel holl wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws y Deyrnas Unedig, yn gweithio’n galed i ymateb i’r heriau parhaus a sylweddol o ganlyniad i’r pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae cynllun cyflawni gweithredol ar waith i helpu i reoli galwadau 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti, gwella ymatebolrwydd a gwella’r broses o drosglwyddo cleifion ambiwlans.

“Yn ddiweddar, gwnaethom lansio rhaglen genedlaethol newydd i wella llif cleifion drwy’r system ysbytai a dychwelyd adref pan fyddant yn barod i wneud hynny, ochr yn ochr â £25m o gyllid rheolaidd.

“Y mis diwethaf, fe wnaethom ddarparu £42m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, a fydd hefyd yn helpu i ryddhau gwelyau ysbyty.”