Mae Oliver Dowden, cadeirydd y Blaid Geidwadol, yn dweud bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn cydnabod fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud camgymeriadau yn eu hymateb i adroddiad y Pwyllgor Safonau i ymddygiad Owen Paterson.

Daw ei sylwadau wrth iddo siarad ar raglen BBC Breakfast fore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15).

“Os gwrandewch chi ar yr hyn ddywedodd y prif weinidog, fe ddywedodd ein bod ni wedi gwneud camgymeriadau a’n bod ni’n difaru hynny,” meddai.

“Rydyn ni wedi derbyn hynny, rydyn ni’n symud ymlaen.”

Torri rheolau

Dywed Oliver Dowden mai mater i’r Comisiynydd Safonau yw penderfynu a yw Syr Geoffrey Cox, y twrnai cyffredinol, wedi torri rheolau drwy ddefnyddio swyddfa seneddol at ddibenion y tu allan i San Steffan.

“Mae ein swyddfeydd seneddol yno i’n galluogi ni i gwblhau ein gwaith fel Aelod Seneddol,” meddai.

“Mae’r prif weinidog wedi bod yn glir iawn y dylai aelodau seneddol fod yn bwrw iddi gyda’u gwaith bob dydd.

“Os oes yna honiadau, yn wir mewn perthynas â Geoffrey Cox, nad yw e wedi cadw at y rheolau hynny yna mae’n fater i’r Comisiynydd Safonau Seneddol ac mae mecanwaith priodol ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw.”

Pleidlais

Mae disgwyl i aelodau seneddol bleidleisio heddiw (dydd Llun, Tachwedd 15) ynghylch a ddylid dileu’r diwygiadau i safonau arweiniodd at y ffrae ynghylch slebogeiddiwch.

Mae cynnig i wyrdroi gwelliant Leadsom, oedd yn ceisio adolygu’r broses o ymchwilio i safonau aelodau seneddol a gohirio gwaharddiad Owen Paterson am dorri rheolau lobïo, wedi cael ei gyflwyno gan Jacob Rees-Mogg, arweinydd Tŷ’r Cyffredin i’w drafod.

Mae barn y cyhoedd am y Ceidwadwyr wedi gwaethygu ers yr helynt, yn ôl polau piniwn.

Mae ail swyddi aelodau seneddol dan y chwyddwydr o ganlyniad i’r ymdrechion i ddiwygio’r drefn a’r tro pedol a ddaeth lai na 24 awr yn ddiweddarach.

Cafodd Owen Paterson ei wahardd am 30 diwrnod ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi lobïo ar ran dau gwmni oedd yn ei dalu mwy na £100,000 y flwyddyn.

Mae Paterson bellach wedi camu o’i swydd.

Ond cyn hynny, bwriad y gwelliant oedd i bwyllgor trawsbleidiol ddiwygio’r drefn o gynnal ymchwiliadau i ymddygiad o’r fath ac i gynnal ymchwiliad gan ddefnyddio’r drefn newydd.

Ond roedd y gwrthbleidiau’n benderfynol o wrthwynebu’r gwelliant, gan achosi tro pedol, ac maen nhw bellach yn cefnogi gwelliant Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda a chadeirydd y pwyllgor safonau, i wyrdroi’r gwelliant gwreiddiol.

Mae Boris Johnson bellach yn cefnogi’r comisiynydd safonau Kathryn Stone i fwrw ymlaen â’i gwaith.

Honiadau newydd

Yn y cyfamser, mae Llafur yn mynnu ymchwiliad i honiadau bod Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi lobïo i warchod meysydd awyr bach rhag datblygiadau.

Mae lle i gredu ei fod yn beilot a bod ganddo fe awyren sy’n werth £100,000 a’i fod e “wedi dargyfeirio arian cyhoeddus” i dîm yr Awdurdod Hedfan Sifil fel bod modd iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn datblygiadau cynllunio, gan gynnwys tai newydd sy’n effeithio ar leiniau glanio.

Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, yn ei gyhuddo o dorri’r Cod Gweinidogol ac o dorri safonau gonestrwydd a gweddusrwydd mewn swydd gyhoeddus.

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn gwadu’r honiadau, gan ddweud nad oedd y tîm dan sylw yn gorff lobïo.