Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio dan y Ddeddf Frawychiaeth ar ôl i gar ffrwydro tu allan i ysbyty, gan ladd un person ac anafu un arall.

Cafodd Heddlu Glannau Merswy eu galw i Ysbyty Menywod Lerpwl am 10:59 ddoe (dydd Sul, Tachwedd 14), yn dilyn adroddiadau bod tacsi wedi ffrwydro.

Dywedodd Heddlu Gwrthfrawychiaeth Gogledd Orllewin Lloegr fod tri dyn – sy’n 29, 26 a 21 oed – wedi cael eu cadw yn y ddalfa yn ardal Kensington o’r ddinas ar ôl cael eu harestio gan y Ddeddf Frawychiaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod dyn arall, sy’n 20 oed, hefyd wedi cael ei arestio.

Cafodd dyn a oedd yn teithio yn y tacsi ei ladd yn y fan a’r lle.

Mae’r gyrrwr, sydd hefyd yn ddyn, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Dywed yr heddlu gwrthfrawychiaeth eu bod nhw bellach yn trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol, ac yn gweithio’n agos gyda Heddlu Glannau Merswy.

Wrth drydar, dywedodd Boris Johnson fod ei “[f]eddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy yn Lerpwl heddiw”.

“Dw i eisiau diolch i’r gwasanaethau brys am eu hymateb sydyn a’u proffesiynoldeb, ac i’r heddlu am eu gwaith parhaus gyda’r ymchwiliad,” meddai.

Ymchwiliad

Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth gyrrwr tacsi gasglu teithwyr o ardal Rutland Avenue yn Lerpwl toc cyn 11yb ddoe (dydd Sul, Tachwedd 14).

Fe wnaeth y dyn ofyn am gael mynd i Ysbyty Menywod Lerpwl, ryw ddeng munud i ffwrdd.

Wrth i’r tacsi gyrraedd yr ysbyty, roedd ffrwydrad y tu fewn i’r car ac fe aeth ar dân.

Llwyddodd y gyrrwr i ddianc, ac mae e wedi cael triniaeth am ei anafiadau cyn mynd adref.

Fe wnaeth y gwasanaeth tân ddiffodd y fflamau ac fe ddaeth i’r amlwg fod y teithiwr yn dal i fod yn y car a’i fod e wedi marw.

Bu’n rhaid galw’r Fyddin i sicrhau bod safle’r digwyddiad yn ddiogel, ac fe wnaethon nhw gadarnhau’r defnydd o ffrwydron.

Daeth cadarnhad hefyd mai’r teithiwr oedd wedi gosod y ffrwydron yn y cerbyd, ac mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n credu eu bod nhw’n gwybod pwy yw e ond nad oes modd ei enwi ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu wedi bod yn archwilio dau dŷ yn ardal Kensington.

Cafodd dynion 21, 26 a 29 oed eu harestio yn y tŷ cyntaf, a chafodd dyn 20 oed ei arestio yn yr ail dŷ.

Byddan nhw’n cael eu holi gan yr heddlu gwrthfrawychiaeth, a bydd archwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Mae’r heddlu hefyd wedi archwilio tŷ yn ardal Sefton Park, ac mae wyth o deuluoedd wedi cael eu symud o’u cartrefi am y tro.

Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n gwybod pam y digwyddodd y ffrwydrad na chwaith pam fod y dyn wedi mynd i’r ysbyty mewn tacsi.

Er i’r ffrwydrad ddigwydd toc cyn 11 o’r gloch ar Sul y Cofio, dydy’r heddlu ddim o reidrwydd yn cysylltu’r ddau beth ar hyn o bryd.

Maen nhw’n dweud bod y bygythiad o frawychiaeth yn un sylweddol o hyd.

Symud cleifion

Dywed Ysbyty Menywod Lerpwl eu bod nhw wedi atal pobol rhag ymweld â’r ysbyty “hyd nes clywir yn wahanol”, a bod cleifion wedi cael eu symud i ysbytai eraill “lle bo hynny’n bosib’.

“Rydyn ni’n adolygu gweithgarwch ein cleifion ar gyfer y 24-48 awr nesaf, a dylai cleifion aros i glywed am ddiweddariadau ynghylch unrhyw apwyntiadau sydd wedi’u trefnu ac unrhyw ymweliadau eraill â’r ysbyty,” meddai’r ysbyty mewn datganiad.

“Mae ein staff yn cael gadael a dod mewn i’r ysbyty gan oruchwyliaeth Heddlu Glannau Merswy.”

Dywed Phil Garrigan, prif ddyn tân Gwasanaeth Tân ac Achub Glannau Merswy, fod y tân yn y car wedi “datblygu’n llawn” erbyn iddyn nhw gyrraedd ychydig wedi 11yb.

“Fe wnaeth y criwiau ddiffodd y tân yn sydyn ond fel sydd wedi cael ei ddweud gan brif gwnstabl yr heddlu, bu un farwolaeth,” meddai.

“Fe wnaeth unigolyn arall adael y car cyn i’r tân ddatblygu i’r raddfa y gwnaeth.

“Mae ein meddyliau gyda nhw a theuluoedd y rhai gafodd eu heffeithio.”