Mae disgwyl i fwy na 300,000 o weithwyr dderbyn codiad cyflog wrth i gyfraddau uwch gael eu cyhoeddi ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol – cyfradd sy’n cael ei thalu’n wirfoddol gan filoedd o gyflogwyr.
Tu allan i Lundain, bydd y raddfa’n £9.90 yr awr – cynnydd o 40c – a bydd cynnydd o 20c yn Llundain i £11.05.
Dywed y Living Wage Foundation, sy’n gosod y cyfraddau, fod bron i 9,000 o gyflogwyr yn talu’r cyflog hwnnw dros y Deyrnas Unedig.
Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol, sy’n £8.91 yr awr ar gyfer oedolion ar hyn o bryd. Bydd yn codi i £9.50 ym mis Ebrill.
Mae gweithwyr sy’n derbyn y gyfradd uchaf wedi elwa o £1.6bn mewn cyflog ychwanegol ers i’r sefydliad lansio eu hymgyrch ugain mlynedd yn ôl.
‘Sicrwydd a sefydlogrwydd’
Er bod un ym mhob 13 person yn gweithio i gyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, mae 4.8m o weithwyr yn dal i dderbyn llai na hynny, meddai’r Living Wage Foundation.
“Gyda chostau byw yn cynyddu mor sydyn, bydd cyfraddau newydd y Cyflog Byw yn cynnig mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd i gannoedd ar filoedd o weithwyr a’u teuluoedd,” meddai Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Living Wage Foundation.
“Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae’r mudiad Cyflog Byw wedi siapio’r drafodaeth ynghylch tâl isel, gan ddangos beth sy’n bosib pan fydd cyflogwyr cyfrifol yn cynnig cyflog sy’n rhoi urddas i’w gweithwyr.
“Er gwaethaf hyn, mae yna filiynau o bobol o hyd yn gweithio mewn tlodi, yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd, ac mae’r bobol hyn yn gweithio mewn swyddi sydd wedi cynnal cymdeithas yn ystod y pandemig megis gweithwyr gofal cymdeithasol a glanhawyr.”
‘Tâl teg’
Mae’r Living Wage Foundation wedi cyhoeddi bod rhai cyflogwyr newydd yn ymuno â’r rhaglen i dalu cyfraddau uwch, gan gynnwys y cwmnïau adeiladu Taylor Wimpey, sydd â swyddfeydd yn Rhuthun a Chaerdydd, a Persimmon Homes, sydd â swyddfeydd yn Abertawe a Llantrisant.
“Dw i eisiau i’n holl weithwyr deimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac yn cael tâl teg am y gwaith da maen nhw’n ei wneud,” meddai Dean Finch, Prif Weithredwr Grŵp gyda Persimmon Homes.
“Mae talu’r Cyflog Byd Gwirioneddol yn ffordd ardderchog o ddangos hynny.
“Felly dw i wrth fy modd o fod wedi dod yn gyflogwr achrededig gyda’r Living Wage Foundation, ac o ymuno yn yr ymgyrch bwysig hon.”
‘Gwasgfa costau byw’
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC, Frances O’Grady, fod yr adroddiad heddiw’n dangos bod tâl isel yn “endemig”, gyda miliynau o weithwyr mewn swyddi nad ydyn nhw’n talu digon iddyn nhw dalu am filiau na bwyd.
“Gyda Phrydain ynghanol gwasgfa costau byw, mae’n amser i’r Llywodraeth weithredu,” meddai Frances O’Grady.
“Rhaid i weinidogion ddechrau cynyddu’r isafswm cyflog i £10 ar unwaith, gan wahardd cytundebau sero awr a rhoi mwy o fynediad i undebau llafur i weithleoedd er mwyn gallu trafod gwella cyflogau ac amodau.”
‘Penderfynol’
“Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o godi tâl gwaith i £9.50 yr awr, ar ôl cyhoeddi cynnydd sylweddol i’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2022 yn ddiweddar – y cynnydd mwyaf ers ei gyflwyno,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i gynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol ymhellach, er mwyn cyrraedd gwerth dau draean incymau cyfartalog erbyn 2024.
“Mae’r isafswm cyflog yn ofyniad cyfreithiol, rydyn ni’n cymeradwyo cyflogwyr sy’n gallu talu mwy, pan maen nhw’n gallu fforddio gwneud hynny.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd ymhellach er mwyn cefnogi gweithwyr, gan fwrw ymlaen â chynlluniau i gynnwys hawl newydd i bob gweithiwr ofyn am gytundebau mwy rhagweladwy gan eu cyflogwyr, gan roi’r sicrwydd sydd ei angen ar unigolion.”