Mae “misoedd anodd” yn wynebu aelwydydd sydd eisoes mewn dyled oherwydd effeithiau’r pandemig, yn ôl adroddiad newydd.

Gyda chynnydd mewn prisiau ynni a bwyd, a phecynnau cymorth y llywodraeth yn dod i ben, mae adroddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn rhybuddio bod mwy o bobol yn mynd i ddyled nawr er mwyn talu costau dydd i ddydd.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi pobol sy’n cael trafferth cwrdd â chostau byw sylfaenol, gan rybuddio nad yw effaith llawn y pandemig wedi taro Cymru eto.

Rhybuddia adroddiad y Pwyllgor, Dyled a’r Pandemig, fod mwy o bobol yn mynd i ddyled i dalu biliau neu dreth cyngor, a thalu am nwyddau hanfodol, a bod cynnydd mewn prisiau bwyd a thanwydd am wthio pobol yn ddyfnach i dlodi dros y gaeaf.

Wrth ymateb i hynny, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu’r gwaith o sicrhau bod pob cartref cymdeithasol yn cyrraedd Sgôr Effeithlonrwydd Ynni A, er mwyn lliniaru’r pwysau ar unigolion wrth i brisiau tanwydd godi.

Maen nhw hefyd am i Lywodraeth Cymru adolygu eu cynllun gweithredu ar dlodi tanwydd, a gweithio’n galetach i hyrwyddo gwasanaethau cyngor ar ddyled a ffynonellau credyd fforddiadwy.

‘Tlodi Fictoraidd’

Roedd cynnydd cyson mewn costau byw yn bryder penodol i bobol wnaeth gymryd rhan yng ngrwpiau ffocws y Pwyllgor, ac roedd llawer o’r bobol fu’n rhannu eu profiadau’n cytuno nad ydyn nhw wedi teimlo gwir effaith y pandemig eto.

Dywedodd un cyfrannwr o Rondda Cynon Taf mai’r “hyn sy’n fy mhoeni’n fawr yw cynnydd posib o 30% ym mhrisiau nwy a thrydan yn 2022″.

“Mae hynny’n mynd i wthio pobol i dlodi Fictoraidd,” meddai.

“Ac mae gennym ni’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae gennych chi lai o gyflenwyr oherwydd eu bod nhw’n cwympo, mae’r cap pris ynni wedi’i godi… Rwy’n poeni’n fawr am y flwyddyn nesaf.”

‘Pryder gwirioneddol’

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn ystod y gwanwyn eleni, nododd Sefydliad Bevan fod 10% o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi wrth dalu bil.

Yn ôl ymchwil elusen StepChange, roedd 21% o boblogaeth Cymru yn cael anawsterau ariannol, a 7% â phroblem o ran dyled, ym mis Ionawr.

Roedd cyfran uwch o oedolion Cymru (18%) yn wynebu caledi ariannol yn ystod y pandemig nag yn Lloegr a’r Alban.

Bu Cyngor ar Bopeth Cymru hefyd yn cyflwyno tystiolaeth, a dywedodd Lee Chesterman, Dirprwy Arweinydd Tîm Cyngor Dinasyddion Caerdydd a’r Fro eu bod “yn gweld mwy a mwy o bobol yn brwydro oherwydd taliadau na ellir eu rheoli megis costau ynni cynyddol”.

“Mae hynny ynghyd â chynnydd costau byw a chael gwared ar y codiad Credyd Cynhwysol yn ddiweddar yn bryder gwirioneddol,” meddai.

“Wrth i amryw gefnogaeth a ariennir gan y llywodraeth ddod i ben dros y misoedd nesaf hefyd, rydym yn poeni.

“Ein prif bryder yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael i helpu pobol sy’n mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan godiad prisiau. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol agos rydym ni fel staff rheng flaen [Cyngor ar Bopeth Cymru] yn paratoi ar gyfer gaeaf caled a phrysur.”

‘Dychrynllyd’

Dywedodd Jenny Rathbone AoS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ei bod hi’n “amlwg nad yw cartrefi ledled y wlad eto wedi dechrau teimlo effeithiau llawn y pandemig ar eu sefyllfa ariannol”.

“Rydym yn wynebu gaeaf lle mae prisiau tanwydd a chostau bwyd ar gynnydd ac ar yr un pryd, mae’r gefnogaeth allweddol a gafwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, a wnaeth gymaint i gadw pobol ar eu traed, yn dod i ben.

“Mewn cyfnod o galedi economaidd, mae pobol yn aml yn cael eu gorfodi i fynd i ddyled er mwyn ymateb i broblemau ariannol uniongyrchol.

“Mae’n ddychrynllyd bod mwy o bobol bellach yn cymryd benthyciadau i dalu biliau, neu i brynu bwyd, nid ar gyfer eitemau ‘moethus’. Gall yr ateb tymor byr hwn yn hawdd droi’n broblem waeth yn y tymor hir.

“Mae ein hadroddiad yn awgrymu nifer o gamau i Lywodraeth Cymru eu cymryd fel bod cyngor a chymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed.

“Mae angen gwell data arnom i lywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ac i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi dyled.

“Gyda chostau ynni ar gynnydd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu cynlluniau i ôl-osod cartrefi cymdeithasol er mwyn cwrdd â safonau effeithlonrwydd ynni llawer uwch ac i adolygu ei chynllun gweithredu tlodi tanwydd.”