Mae artist lleol wedi ymateb i’r apêl i godi arian i adfer Eglwys y Mwnt drwy gyfrannu llun gwreiddiol o’r eglwys.

Cafodd Eglwys y Grog yng Ngheredigion ei fandaleiddio’n ddiweddar, ac erbyn hyn mae dros £27,000 wedi cael ei godi er mwyn talu am gostau atgyweirio.

Mae Wynne Melville Jones, sy’n gweithio o’i stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn ger Aberystwyth, wedi cynnig un o’i luniau poblogaidd o’r eglwys er mwyn cefnogi’r apêl.

Mae’r darlun, sy’n mesur 30 x 25cm ac wedi’i baentio ar ganfas ac wedi’i fframio, yn un o gyfres o luniau gan Wynne Melville Jones o Eglwys y Mwnt.

Hyd at ddiwedd Ionawr 2022, mae hi’n bosib i bobol wneud cynigion am y llun, sydd wedi’i brisio ar £395.

‘Dinistrio a dibrisio ein hanes’

Dywed Wynne Melville Jones ei fod wedi cael ei “ysgwyd” o glywed am y difrod a’r amharch tuag at yr eglwys.

“Rwyf wedi bod yn ymwelydd cyson â’r Mwnt ers blynyddoedd, ac yn gyson wedi cael fy ysbrydoli gan y lle i baentio cyfres o luniau sy’n ceisio cyfleu naws a rhin arbennig y Mwnt a’i ymdeimlad hynafol ac unig,” meddai Wynne Melville Jones.

“Mae symlrwydd yr adeilad gwyngalchog a’i leoliad, gyda’r mȏr mawr a lliwiau dyfnion Bae Ceredigion yn gefndir diderfyn, yn ddelwedd sy’n aros yn y cof am byth, a hynny ar ôl un ymweliad yn unig, ac mae’n un o iconau cryfaf ein hanes a’n treftadaeth Gymreig yng Ngheredigion

“Fel llawer o bobol eraill cefais fy ysgwyd o glywed am y newyddion am y fandaliaeth, y difrod a’r amharch, a hynny yn y cyfnod bregus hwn yn ein hanes fel dynoliaeth yn sgil Covid-19.

“Yn wir mae’n codi braw bod yna bobol sy’n barod i ddinistrio a dibrisio ein hanes, a chwalu ein diwylliant yn y fath fodd, heb un pwrpas yn y byd.”

Mae’r ymgais hon i gefnogi’r gronfa, a gafodd ei sefydlu gan y Cynghorydd Clive Davies, wedi’i threfnu gan Wynne Melville Jones ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae modd gwneud cynnig am y llun drwy yrru neges i @orielwynmel ar Twitter, gyrru e-bost at Wmj@wynmel.cymru, neu yrru neges destun i 07968111757.

Codi dros £23,000 mewn pedwar diwrnod i adfer eglwys Mwnt

Cafodd Eglwys y Grog ei fandaleiddio’n ddiweddar, a bydd yr arian yn talu am waith atgyweirio tu mewn a thu allan i’r eglwys