Mae ymgyrch i gasglu arian er mwyn adfer eglwys Mwnt yng Ngherdigion wedi codi dros £20,000 mewn pedwar diwrnod.

Cafodd Eglwys y Grog ei fandaleiddio’n ddiweddar, a bydd yr arian yn mynd tuag at atgyweirio’r eglwys.

Erbyn hyn, mae’r dudalen codi arian wedi casglu dros £23,000 gan fynd tu hwnt i’r targed o £20,000.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, a wnaeth ddechrau’r dudalen codi arian, fod cyrraedd y targed yn “ddechrau anhygoel i 2022”.

“Eglwys heddychlon”

Ers sefydlu’r dudalen, mae’r ymgyrch wedi derbyn negeseuon “byd-eang”, meddai’r Cynghorydd.

Wedi cyrraedd y targed o fewn tridiau, diolchodd y Cynghorydd Clive Davies am yr ymateb gan “bob rhan o’r gymuned leol, busnesau a hefyd trwy bŵer cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang”.

“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd, a rannodd ac sydd wedi cynnig cefnogaeth bellach a fydd yn cael ei ddilyn unwaith y bydd aelodau’r eglwys yn cwrdd yn yr wythnosau i ddod,” meddai’r Cynghorydd Clive Davies.

“Diolch hefyd am rannu eich barn a’ch profiad o ymweld neu ddefnyddio’r eglwys.

“Yn anffodus, mae diogelwch yn y dyfodol hefyd yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod ac unwaith eto diolch am yr awgrymiadau a’r gefnogaeth niferus.

“Yr eglwys heddychlon hon y mae llawer yn ei defnyddio ar gyfer myfyrdod tawel, mae angen iddi fod yn agored ond ei chadw’n ddiogel.”

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r difrod, a ddigwyddodd ar 2 a 20 Rhagfyr 2021.

Mae’n cynnwys ffenestri wedi torri, a difrod i du mewn a thu allan yr eglwys.