Mae Syr Keir Starmer wedi cefnogi’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair ar ôl i ddeiseb yn galw am ei ddad-urddo gael ei llofnodi gan hanner miliwn o bobol.

Cafodd Syr Tony Blair ei urddo gan y Frenhines yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, ond yn ôl y ddeiseb dylid “dileu’r” teitl.

Mae’r ddeiseb yn dweud bod Tony Blair “yn bersonol yn gyfrifol am achosi marwolaethau nifer dirifedi o bobol ddiniwed a chyffredin, a milwyr, mewn rhyfeloedd amrywiol”.

Wrth siarad am y mater ar Good Morning Britain, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, nad yw’n fater “anodd”, ac y dylai Tony Blair gadw ei deitl.

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn anodd o gwbl, dw i’n meddwl ei fod yn haeddu’r anrhydedd, yn amlwg dw i’n parchu’r ffaith bod gan bobol farn wahanol,” meddai Keir Starmer.

“Dw i’n deall bod yna farn gref am ryfel Irac, roedd yn bodoli ar y pryd ac yn dal i fod, ond dyw hynny ddim yn tynnu oddi wrth y ffaith bod Tony Blair yn brif weinidog llwyddiannus iawn ar y wlad hon ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miliynau o bobol yn y wlad hon.”

“Difrod anadferadwy”

Mae datganiad gyda’r ddeiseb yn nodi bod Tony Blair wedi gwneud “difrod anadferadwy i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig”.

“Roedd e’n bersonol yn gyfrifol am achosi marwolaethau nifer dirifedi o bobol ddiniwed a chyffredin, a milwyr, mewn rhyfeloedd amrywiol,” meddai’r ddeiseb.

“Am hynny dylid ei gael yn atebol am droseddau rhyfel.

“Rydyn ni’n deisebu’r Prif Weinidog i ddeisebu Ei Mawrhydi i ddileu’r anrhydedd hon.”

Daeth Tony Blair yn brif weinidog yn 1997, ac roedd mewn grym yn ystod rhyfeloedd Irac ac Affganistan.

Ar ôl gadael Downing Street ddegawd wedyn, bu’n lysgennad yn y Dwyrain Canol a sefydlodd grŵp nid-er-elw ei hun, y Tony Blair Institute for Global Change.