Mae perchnogion byd-enwog clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi cyfrannu £10,000 tuag at achos un o’r chwaraewyr ar ôl iddo golli ei fab ifanc.

Cafodd tudalen GoFundMe ei agor ychydig ddyddiau yn ôl wedi i’r chwaraewr canol cae, Jordan Davies, a’i bartner, Kelsey Edwards, ddioddef y brofedigaeth cyn y Nadolig.

Ar 14 Rhagfyr, bu farw eu mab Arthur Andrew Davies ar enedigaeth yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, ac o dan yr amgylchiadau, cafodd y cwpl gefnogaeth mewn uned arbennig sy’n cael ei ariannu gan Sands (Stillbirth & Neonatal Death Society) – elusen ar gyfer y rheiny sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth baban.

Rhodd o Hollywood

Dros y dyddiau diwethaf, mae’r dudalen godi arian ar-lein wedi derbyn rhodd uniongyrchol o £10,000, a hynny gan Rob McElhenney a Ryan Reynolds, yn ogystal â’u gwragedd, yr actorion Kaitlin Olson a Blake Lively.

Yn ogystal â’r rhodd honno, mae bron i £4,000 wedi ei godi, gan olygu bod y targed gwreiddiol o £1,500 wedi ei phasio erbyn hyn.

Dywedodd mam Arthur, Kelsey Edwards, y “dylai neb byth orfod dioddef y boen o golli eu babi,” ond eu bod nhw’n “lwcus bod y gwasanaethau ar gael pan mae’r annisgrifiadwy yn digwydd.”

Wrth drafod y gefnogaeth yn Ysbyty Maelor, ychwanegodd: “Fe wnaeth y bydwragedd roi gofal cyson i ni a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gyffyrddus.

“Cawson ni’r amser yr oedden ni ei angen gydag ein mab, gan dderbyn cefnogaeth drwyddi draw. Fe wnaethon nhw hefyd roi bocs atgofion i ni gyda stwff i’w trysori am byth.

“Byddwn ni’n ddiolchgar ar hyd ein hoes i Sands a’r holl staff yn Wrecsam Maelor.”