Fe wnaeth dros 28,300 o bobol groesi’r Sianel i Loegr ar gychod bach yn 2021, teirgwaith y nifer oedd wedi croesi yn 2020.

Bydd mwy o bobol yn gwneud y siwrne, a mwy o bobol yn boddi rhwng Ffrainc a Lloegr, os bydd Llywodraeth San Steffan yn parhau â’u “polisi peryglus a didrugaredd”, meddai ymgyrchwyr.

Fe wnaeth mwy o bobol nag erioed groesi’r Sianel llynedd, er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi miliynau o bunnoedd i awdurdodau Ffrainc i fynd i’r afael â’r mater.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae Llywodraeth San Steffan yn “diwygio” eu hagwedd tuag at geisiwyr lloches drwy eu Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi condemnio’r mesurau “barbaraidd” sy’n rhan o Fil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac wedi cyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gwrthwynebu’r mesur, gan ddadlau ei fod yn trio deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud fod y Bil yn mynd yn groes i bolisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru hefyd.

Ystadegau

Mae’r ystadegau, sy’n seiliedig ar ddata gan y Swyddfa Gartref ac wedi’u dadansoddi gan asiantaeth newyddion PA, yn dangos bod mwy o bobol wedi cyrraedd Lloegr ym mis Tachwedd nag unrhyw fis arall.

Rhwng 10 ac 16 Tachwedd, croesodd 3,100 o bobol y Sianel, y nifer uchaf o fewn unrhyw gyfnod o saith niwrnod trwy gydol yr argyfwng presennol.

Er bod ymdrechion wedi bod i fynd i’r afael â smyglwyr sy’n cludo pobol dros y Sianel, mae maint y cychod sy’n gadael Ffrainc wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda rhai’n cludo hyd at 50 o bobol.

Yn ôl data PA, roedd pob cwch yn cludo tua 28 person yn 2021, o gymharu ag ychydig dros 13 yn 2020.

“Rhaid i San Steffan ddeffro”

Fis Tachwedd, bu farw o leiaf 27 o bobol pan wnaeth eu cwch suddo yn y Sianel, ac mae prif weithredwr Refugee Action, Tim Naor Hilton, wedi dweud y bydd polisi’r Deyrnas Unedig yn arwain at fwy o farwolaethau.

“Bydd pobol yn parhau i groesi’r Sianel mewn cychod simsan, a bydd smyglwyr yn parhau i elwa, oni bai bod gweinidogion yn agor mwy o ffyrdd i ffoaduriaid geisio lloches yma,” meddai Tim Naor Hilton.

“[Ym mis Tachwedd] fe wnaethom ni weld canlyniad marwol eu strategaeth o gadw pobol allan yn hytrach na chadw pobol yn ddiogel, pan wnaeth o leiaf 27 o bobol farw ger ein harfordir.

“Ac eto mae’r Llywodraeth eisiau cyfreithloni’r polisi peryglus a didrugaredd hwn yn eu Bil Gwrth-Ffoaduriaid, a fydd ond yn arwain at fwy o bobol yn boddi. Mae’n rhaid iddi ddeffro a chael gwared ar y bil hwn nawr.”

“Peryglu eu bywydau”

Cyrhaeddodd o leiaf 120,441 o bobol Ewrop drwy ardal Môr y Canoldir, yn ôl ystadegau Uwch Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.

Mae o leiaf 1,839 o bobol wedi marw neu ar goll, meddai’r un data.

Yn ôl sylfaenydd elusen Care4Calais, sy’n cefnogi ffoaduriaid yng ngogledd Ffrainc, mae’r cynnydd yn nifer y bobol sy’n croesi’r Sianel ar gychod yn adlewyrchu’r ffaith bod llai’n croesi mewn lorïau.

“Maen nhw’n rhai o bobol fwyaf agored i niwed y byd, wedi colli aelodau o’u teuluoedd mewn brwydrau gwaedlyd, wedi dioddef artaith erchyll, ac erlyniadau annynol,” meddai Clare Moseley wrth PA.

“Mae’r Llywodraeth yn dweud wrthym ni y dylai pobol deithio mewn ffyrdd cyfreithlon, ond pe bai hyn wirioneddol yn bosib, pam y byddai cymaint yn peryglu eu bywydau mewn cychod simsan?”

“Diwtgio”

Dywedodd yr Aelod Seneddol Tom Pursglove, sy’n weinidog yn y Swyddfa Gartref, na ddylai pobol beryglu eu bywydau drwy dalu gangiau troseddol i groesi’r Sianel, er mwyn cael lloches.

Mae Llywodraeth San Steffan yn “diwygio” eu hagwedd drwy “wneud penderfyniadau anodd” i atal pobol rhag ecsbloetio cyfreithiau a threthdalwyr y Deyrnas Unedig, meddai.

“Mae’r cyhoedd wedi bod yn galw am ddiwygiadau ers dau ddegawd a dyna mae’r Llywodraeth hon yn ei gyflwyno drwy ein Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo,” meddai Tom Pursglove.

“Bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei gwneud hi’n drosedd i gyrraedd y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon gan wybod hynny, a chyflwyno dedfrydau oes i bobol sy’n caniatáu i bobol ddod i’r wlad yn anghyfreithlon.

“Bydd hefyd yn cryfhau pwerau Llu’r Ffiniau i stopio ac ailgyfeirio cychod, wrth gyflwyno pwerau newydd i symud ceiswyr lloches er mwyn i’w apeliadau gael eu prosesu tu allan i’r Deyrnas Unedig.

“Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio i ddiwygio’r system doredig hon yn barod, a’r cynharaf mae Tŷ’r Arglwyddi’n cymeradwyo’r Bil Ffiniau, y cynharaf y gellir cyflwyno’r diwygiadau hyn.”

Llywodraeth Cymru yn condemnio mesurau “barbaraidd” Bil Cenedligrwydd a Ffiniau San Steffan

“Beth bynnag mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei ddweud, mae Cymru yn genedl noddfa,” meddai Cyngor Ffoaduriaid Cymru