Fe fydd pobol rhwng 25 a 49 oed yn cael eu gwahodd am brawf sgrinio ceg y groth arferol bob pum mlynedd yn hytrach na thair o hyn ymlaen.
Mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi ymestyn y bwlch yn sgil llwyddiant profion feirws papiloma dynol (HPV).
Mae’r newid yn berthnasol ar gyfer pawb dan 50 oed sydd ddim yn profi’n bositif am HPV yn ystod eu prawf sgrinio serfigol.
Mae HPV yn feirws cyffredin iawn, ac mae un neu fwy o fathau o HPV â risg uchel yn bresennol yn 99.8% o achosion o ganser serfigol.
Cafodd profion HPV eu cyflwyno yng Nghymru yn 2018, ac mae bron i 9 ymhob 10 canlyniad yn dangos nad oes gan y person HPV â risg uchel.
Golyga’r newid bod y bwlch rhwng profion ar gyfer pobol 25 i 49 oed yr un fath ag ar gyfer pobol rhwng 50 a 64, ac mae’n dilyn argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
“Datblygiad cadarnhaol”
Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Sgrinio Serfigol Cymru, fod y prawf HPV “yn awr yn fwy effeithiol o ran nodi pobol sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu newidiadau celloedd sy’n gallu achosi canser ceg y groth”.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos ei bod felly’n ddiogel ymestyn yr amser rhwng profion sgrinio serfigol i bobl nad oes ganddynt HPV wedi’u nodi.”
Ychwanegodd Louise Dunk, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, y bydd profi pawb sy’n mynd i gael prawf sgrinio serfigol gan ddefnyddio prawf HPV risg uchel yn nodi’r rhai sy’n wynebu risg ac yn atal mwy o ganserau na dim ond archwilio celloedd yn unig.
“Mae’n ddatblygiad cadarnhaol iawn y bydd y prawf mwy effeithiol hwn yn golygu bod pobl sydd â cheg y groth, sy’n profi’n negyddol am HPV, bellach dim ond yn gorfod mynd i gael eu prawf bob pum mlynedd, yn hytrach na bob tair blynedd.
“Gallai mynd i’ch apwyntiad sgrinio achub eich bywyd. Drwy wneud apwyntiad mae gennych gyfle i atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynharach pan fo’n haws ei drin.”
Daeth y newid i rym ar 1 Ionawr eleni, ac mae’n golygu y bydd llythyrau canlyniadau sydd wedi’u hanfon ar ôl y dyddiad hwnnw yn dweud mai mewn pum mlynedd fydd eu hapwyntiad nesaf, cyn belled bod yr amodau’n berthnasol iddyn nhw.
Mae tua 160 o bobol yn cael diagnosis o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn, a dyna’r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod o dan 35 oed.