Mae Syr Keir Starmer wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer Llywodraeth Lafur, wrth draddodi araith yn Birmingham, gan addo “arweinyddiaeth onest”.

Wrth agor ei araith, dywedodd ei fod am wneud rhywbeth “anaml iawn y bydd arweinwyr yr wrthblaid yn ei wneud”.

“Rwyf am ddathlu’r wlad yr ydym yn byw ynddi,” meddai.

“Gwaith y gwrthbleidiau fel arfer yw beirniadu a gwrthwynebu. Ond gall wneud i ni ddod drosodd yn eithaf diflas.

“Gall swnio fel pe na baem yn sylweddoli ein bod yn ffodus i fod wedi cael ein geni mewn democratiaeth ryddfrydol heddychlon a chreadigol.

“Heddiw, rwyf am gyflwyno fy nghytundeb gyda phobol Prydain.

“Bydd hwn yn gytundeb ynghylch yr hyn sydd ei angen ar y wlad hon a sut y dylai llywodraeth dda ymddwyn.”

“Pennod newydd” yn hanes y blaid Lafur

Dywedodd hefyd ei fod yn awyddus i ysgrifennu “pennod newydd” yn hanes ei blaid.

“Pan fyddaf yn myfyrio ar lywodraethau Llafur blaenorol, rwy’n ystyried dau beth,” meddai.

“Yn gyntaf, pa mor dda yw ein record. Gwnaeth tair pennod o newid – Attlee, Wilson a Blair – Brydain yn wlad well.

“Mae’n rhaid i ni ysgrifennu’r bedwaredd bennod. Rhaid mai ni yw’r bobol sy’n creu Prydain newydd yn yr 21ain ganrif.

“Yn ail, all neb edrych ar ein record a dweud nad yw Llafur yn blaid wladgarol.

“Roedd gan y llywodraethau Llafur hynny yr uchelgais i adeiladu cymdeithas lle’r oedd pawb yn gallu cyfrannu a lle’r oedd pawb yn cael eu gwerthfawrogi.

“Dyma’r traddodiad a’r uchelgais rydyn ni’n eu hetifeddu.”

Ychwanegodd fod ganddo “syniad clir iawn o sut y byddai llywodraeth Lafur yn edrych” a’i fod yn awyddus i gyflwyno ei gynlluniau i’r cyhoedd yn 2022.

“Byddai Llafur yn creu 100,000 o fusnesau newydd a chanolfannau rhagoriaeth newydd gan adeiladu ar gryfderau presennol fel gemau fideo yn Dundee a biopharma yng Nghaergrawnt,” meddai wedyn.

“Yma yn Birmingham mae Brandauer, a ddechreuodd fywyd fel gwneuthurwr beiros, a bellach yn cynhyrchu platiau a ddefnyddir mewn celloedd tanwydd hydrogen, technoleg a allai helpu i bweru lorïau sydd heb unrhyw allyriadau.”

‘Gwleidyddiaeth ddim yn gangen o’r diwydiant adloniant’

Honnodd Syr Keir Starmer fod y cyhoedd wedi colli ffydd yn y Llywodraeth Geidwadol bresennol.

“Rhaid ennill ymddiriedaeth ac rwy’n hyderus ond nid yn hunanfodlon ynglŷn â’r dasg sydd o’n blaenau,” meddai.

“Fe ddes i i mewn i wleidyddiaeth i wneud i bethau ddigwydd, nid dim ond i siarad amdanyn nhw.

“Dw i ddim yn meddwl bod gwleidyddiaeth yn gangen o’r diwydiant adloniant.

“Rwy’n credu ei fod yn ddiwydiant difrifol lle mae’n rhaid i ni gyflawni pethau.

“Ond mae gen i ofn ar hyn o bryd ein bod ni’n mynd am yn ôl.

“Mae gennym Brif Weinidog sy’n credu nad yw’r rheolau yn berthnasol iddo.

“Rwyf wedi clywed cymaint o straeon torcalonnus am bobol a gollodd angladdau teuluol am eu bod yn cadw at y rheolau.

“Yn y cyfamser, roedd y Prif Weinidog mewn parti caws a gwin yn Stryd Downing.”