Mae disgwyl i farnwr yn yr Unol Daleithiau glywed dadleuon dros gynnig i ollwng achos sifil sydd wedi’i ddwyn yn erbyn Dug Caerefrog.

Mae Virginia Giuffre wedi dwyn achos yn  erbyn Andrew gan honni ei fod wedi ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi yn ei harddegau. Ond fe fydd cyfreithwyr y Dug yn dadlau bod angen gollwng yr achos yn ystod gwrandawiad heddiw (Dydd Mawrth, 4 Ionawr).

Fe fydd y Barnwr Lewis A Kaplan yn cynnal cynhadledd fideo heddiw, ddiwrnod ar ôl i ddogfen gael ei datgelu sy’n dangos telerau cytundeb gwerth £370,000 rhwng y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein a Virginia Giuffre.

Yn ôl y ddogfen roedd Virginia Giuffre wedi cytuno yn 2009 i beidio dwyn achos yn erbyn Jeffrey Epstein “nac unrhyw un arall a allai fod yn ddiffynnydd posib.”

Mae Andrew B Brettler, sy’n cynrychioli mab y Frenhines, wedi dadlau bod Virginia Giuffre wedi dod i “gytundeb” a fyddai’n dod a’i hachos i ben.

Mae’r cyfreithiwr eisoes wedi dweud wrth wrandawiad yn Efrog Newydd fod y cytundeb yn “rhyddhau’r Tywysog Andrew ac eraill” o unrhyw honiadau sydd wedi cael eu gwneud gan Virginia Giuffre yn erbyn y Dug.

Ond mae cyfreithiwr Virginia Giuffre, David Boies, yn credu “nad yw’r cytundeb yn berthnasol i’r achos yn erbyn y Tywysog Andrew”.

Mae Virginia Giuffre yn ceisio iawndal ac mae yna ddyfalu y gallai fod yn filiynau o ddoleri. Mae hi’n honni iddi gael ei masnachu gan y pedoffeil Jeffrey Epstein i gael rhyw gydag Andrew pan oedd hi’n 17 oed, ac o dan oed yn ôl cyfraith yr Unol Daleithiau.

Mae Andrew wedi gwadu’r holl honiadau yn ei erbyn.

Mae Ghislaine Maxwell, cyn-gariad Jeffrey Epstein, yn wynebu treulio gweddill ei bywyd dan glo ar ôl ei chael yn euog fis diwethaf o helpu i ddod o hyd i ferched ifanc yn eu harddegau er mwyn iddo eu cam-drin yn rhywiol.