Mae gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod defnyddio eu cynlluniau brys er mwyn mynd i’r afael â phrinder staff yn sgil amrywiolyn Omicron.
Mae arweinwyr iechyd wedi rhybuddio bod y gwasanaeth iechyd mewn “stad o argyfwng”, ac mae o leiaf chwe ymddiriedolaeth iechyd dros y Deyrnas Unedig wedi datgan “digwyddiad o argyfwng”.
Dywedodd Boris Johnson ddoe (3 Ionawr) ei fod am “wneud yn siŵr ein bod ni’n edrych ar ôl ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn unrhyw ffordd bosib”.
Mae yna ofnau y bydd 25% o weithwyr y sector gyhoeddus yn absennol oherwydd salwch, ac yn ôl y Daily Telegraph bydd hyd at 10 miliwn o weithwyr “hanfodol” yn gallu cael mynediad at brofion Covid trwy eu cyflogwyr.
Bydd hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd, addysg a thrafnidiaeth, yn ôl y papur newydd.
Wrth siarad â’r BBC fore ddoe, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod yr “Ionawr caled yr oeddem yn ei ragweld wedi cyrraedd”.
Mewn neges frys, dywedodd Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod nhw’n “eithriadol o brysur” ar hyn o bryd, ac yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio oriau ychwanegol gyda’r nos heno (4 Ionawr).
Mae Ysbyty Treforys yn “parhau i fod yn eithriadol o brysur”, ac mae cleifion gyda mân anafiadau yn wynebu amseroedd aros hir yn yr Uned Frys yno, meddai’r Bwrdd Iechyd.
Mae gofyn i bobol â mân anafiadau fynd i Uned Mân Anafiadau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn hytrach na mynd i Ysbyty Treforys.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ychydig o wythnosau “heriol iawn”, ond maen nhw hefyd yn disgwyl i achosion Omicron ostwng yn gyflymach nag yn ystod tonnau blaenorol.
“Ffôl” dweud bod y pandemig drosodd
Mae Boris Johnson wedi dweud ei bod hi’n “hanfodol” fod pobol yn helpu gweithwyr iechyd i gyfyngu lledaeniad y pandemig drwy gael eu brechu a dilyn mesurau eu cynllun B.
Rhybuddiodd y Prif Weinidog y byddai’n “gwbl ffôl dweud bod y peth drosodd nawr.”
Er hynny, dywedodd ei bod hi’n “galonogol iawn” gweld plant yn cael eu brechu cyn mynd yn ôl i’r ysgol.
Yn Lloegr, mae cyngor newydd yn golygu y bydd disgyblion uwchradd yn cael eu cynghori i wisgo mygydau mewn dosbarthiadau, yn ogystal â phrofi eu hunain ddwywaith yr wythnos.
Mae’r camau hynny’n rhan o gynllun B Boris Johnson, a fydd yn cael eu hystyried gan Aelodau Seneddol wedi iddyn nhw ddychwelyd i’r Senedd fory (5 Ionawr).
Yng Nghymru, mae ysgolion wedi cael amser ychwanegol i baratoi i ailagor wedi’r Nadolig rhag ofn bod salwch ymhlith staff yn golygu bod angen dysgu ar-lein.
Bydd Boris Johnson hefyd yn wynebu cwestiynau am adroddiadau yn y Daily Mirror ei fod wedi methu hunanynysu fis Ionawr y llynedd ar ôl dod i gyswllt gydag aelod o staff wnaeth brofi’n bositif, mae’n debyg.
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street wrth y Mirror bod Boris Johnson wedi ymbellhau’n gymdeithasol rhag yr aelod o’r staff, ac nad oedd yn eu cwmni am fwy na 15 munud.
“Ni chafodd gyngor i hunanynysu gan nad oedd y rheolau’n ei orfodi i wneud hynny,” meddai’r llefarydd.
Trenau
Mae gwasanaethau tren Trafnidiaeth Cymru wedi’u cwtogi ymhellach yn absenoldebau staff hefyd.
Bydd yr amserlen newydd mewn lle am yr wythnosau nesaf, ac mae Trafnidiaeth Cymru’n annog pobol i wirio’r amserlen cyn teithio.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van de Velde, Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n delio â thon Omicron o achosion Covid ac, fel nifer o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus, rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn absenoldebau ymysg cydweithwyr yn yr wythnosau diwethaf.
“Mae hi’n hollbwysig ein bod ni’n parhau i redeg gwasanaethau mor ddibynadwy â phosib i’n cwsmeriaid ac felly rydyn ni’n cyflwyno amserlen wedi’i hadolygu o 3 Ionawr, gan leihau’r risg o ganslo’n fyr rybudd.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig i rai cwsmeriaid, ac nid ydyn ni wedi cymryd y penderfyniad yn ysgafn.
“Rydyn ni’n gofyn i’n holl gwsmeriaid wirio ar-lein cyn teithio a dilyn cyngor presennol y llywodraeth. Ein nod yw adfer ein hamserlen mor fuan ag y mae’r cyfraddau absenoldebau sy’n cael eu hachosi gan y don hon o’r pandemig yn caniatáu.”