Mae dogfen gyfreithiol wedi’i rhyddhau y mae cyfreithiwr y Tywysog Andrew yn dadlau y bydd yn atal yr achos sifil yn erbyn mab Brenhines Lloegr.
Daethpwyd i gytundeb rhwng Virginia Giuffre, a elwir hefyd yn Virginia Roberts, a chyfaill Andrew, y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Mae’r ddogfen 12 tudalen – a wnaed yn gyhoeddus gan lys yn Efrog Newydd brynhawn Llun – yn datgelu telerau taliad o $500,000 (£370,000) gan Epstein i Ms Giuffre.
Mae’r ddogfen yn nodi bod Ms Giuffre yn cytuno i “ryddhau am byth” Epstein ac “unrhyw berson neu endid arall y gellid bod wedi’i gynnwys fel diffynnydd posibl”.
Achos yn Florida
Mae’r ddogfen yn parhau: “Cytunir ymhellach fod y Cytundeb hwn yn cynrychioli datrysiad terfynol i hawliad gyda’r bwriad o osgoi ymgyfreitha.
“Ni ddylid dehongli’r cytundeb hwn i fod yn gyfaddefiad o atebolrwydd neu fai gan unrhyw barti.
“Mae’r partïon yn cadarnhau ac yn cydnabod ymhellach bod y Cytundeb hwn yn cael ei wneud heb unrhyw ddylanwad gormodol, a’u bod wedi cael cyfle llawn i drafod telerau’r Cytundeb gyda’u cyfreithwyr eu hunain.”
Mae’r setliad yn ymwneud ag achos yn Florida nad oedd Dug Caerefrog yn rhan ohono.
Mae Andrew B Brettler, sy’n cynrychioli’r Tywysog Andrew, wedi dadlau bod Ms Giuffre, sydd ag achos sifil yn erbyn mab Brenhines Lloegr am ymosodiad rhywiol honedig, wedi ymrwymo i “gytundeb setlo” a fyddai’n dod â’i hachos i ben.
Dywedodd yn flaenorol wrth wrandawiad yn Efrog Newydd fod y cytundeb yn “rhyddhau’r Tywysog Andrew ac eraill rhag unrhyw atebolrwydd honedig sy’n deillio o honiadau Ms Giuffre yn erbyn y Tywysog Andrew”.
‘Amherthnasol’
Mae cyfreithiwr Ms Giuffre, David Boies, yn credu bod y setliad yn “amherthnasol i’r achos yn erbyn y Tywysog Andrew”.
Yn eu dogfennau hwythau, mae tîm cyfreithiol Ms Giuffre wedi dweud wrth y llys fod cytundeb Epstein “y tu allan i bedair cornel” ei hachos yn erbyn y Tywysog Andrew am nad yw’n ymdrin â’i honiadau yn ei erbyn.
Mae disgwyl i Farnwr Ardal yn yr Unol Daleithiau, Lewis A Kaplan, sy’n llywyddu dros yr achos sifil, gynnal cynhadledd fideo ddydd Mawrth pan fydd cais gan dîm cyfreithiol y Dug i wrthod yr achos yn cael ei glywed.
Mae Ms Giuffre yn cyhuddo mab y Frenhines o ymosod yn rhywiol arni pan oedd hi yn ei harddegau.
Mae’n ceisio iawndal amhenodol – gyda dyfalu y gallai’r swm fod yn filiynau o ddoleri.
Mae’n honni iddi gael ei masnachu gan Epstein er mwyn cael rhyw gydag Andrew pan oedd yn 17 oed.
Mae Andrew wedi gwadu’r holl honiadau.
Yr wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Barnwr Kaplan gynnig gan gyfreithwyr Andrew i atal yr achos sifil tra bod y mater o ble mae Ms Giuffre yn byw yn cael ei ystyried.