Mae dioddefwyr Ghislaine Maxwell wedi dweud bod “rhaid dal eraill yn atebol” ar ôl iddi gael ei chanfod yn euog o dargedu merched ifanc er mwyn i Jeffrey Epstein eu cam-drin.

Fe wnaeth Ghislaine Maxwell, 60, helpu i ddenu merched yn eu harddegau i eiddo yn perthyn i Epstein rhwng 1994 a 2004 er mwyn iddo eu cam-drin yn rhywiol.

Dywedodd Virginia Roberts, un o’i dioddefwyr, ei bod hi wedi “byw gydag ofn camdriniaeth Maxwell”, ac fe wnaeth ganmol y pedair menyw roddodd dystiolaeth yn ei herbyn yn yr achos llys yn Efrog Newydd.

Mae Virginia Roberts, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Virginia Giuffre, yn dweud ei bod hi wedi cael ei gorfodi i gael rhyw gyda’r Tywysog Andrew deirgwaith yn 2001 a dwywaith wedyn yn Efrog Newydd ac ar ynys breifat Epstein, ac wedi’r cyhuddiad dywedodd bod ganddi “ffydd” y bydd eraill yn wynebu cyfiawnder hefyd.

“Dw i’n gobeithio nad heddiw yw’r diwedd, ond yn hytrach ei fod yn gam tuag at gyfiawnder,” meddai Virginia Roberts.

“Ni wnaeth Maxwell ymddwyn ar ei phen ei hun.

“Mae’n rhaid i eraill gael eu dal yn atebol. Mae gennyf i ffydd y byddan nhw.”

Yr achos

Clywodd y llys yn Efrog Newydd fod Maxwell wedi denu merch 14 oed i gymryd rhan mewn rhyw gyda grŵp o bobol, wedi cyffwrdd dioddefwr arall heb ganiatad, ac wedi rhoi gwisg merch ysgol i ddioddefwr arall cyn cael massage rhywiol gydag Epstein oherwydd roedd hi’n “meddwl y byddai’n hwyl”.

Fe wnaeth Maxwell “fyw bywyd o foethusrwydd” tra bod y gamdriniaeth yn digwydd, a dywedodd yr erlynydd ei bod hi’n defnyddio masnachu rhyw er mwyn “cefnogi ei ffordd o fyw”.

Dywedwyd wrth y staff yn eiddo Epstein i “weld dim, clywed dim, a dweud dim”, a chlywodd y llys fod Maxwell wedi cynnal “diwylliant o ddistawrwydd… wedi’i gynllunio” yno.

Roedd chwe chyhuddiad yn ei herbyn, gan gynnwys cynllwynio i ddenu pobol i deithio i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw anghyfreithlon, denu plant i deithio i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw anghyfreithlon, a chynllwynio i gludo plant gyda’r bwriad iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol anghyfreithlon.

Cyhuddwyd Maxwell hefyd o gludo plant gyda’r bwriad o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol anghyfreithlon, cynllwynio i fasnachu rhyw a masnachu plant ar gyfer rhyw.

Cafodd ei chanfod yn euog o bump o’r chwe chyhuddiad ddoe (29 Rhagfyr).

Cafodd Maxwell ei chanfod yn ddieuog o ddenu plentyn i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw anghyfreithlon, wedi i un o’r dioddefwyr honni ei bod wedi cael ei gorfodi i deithio o Florida i Manhattan fel y gallai Epstein gael rhyw gyda hi.

“Un o’r troseddau gwaethaf”

Dywedodd datganiad gan swyddfa twrnai’r Unol Daleithiau wedi’r cyhuddiad: “Mae rheithgor unfrydol wedi canfod Ghislaine Maxwell yn euog o un o’r troseddau gwaethaf y gellir eu dychmygu – caniatáu a chymryd rhan mewn cam-drin plant yn rhywiol. Troseddau y gwnaeth hi eu cyflawni gyda’i phartner hirdymor a chyd-gynllwyniwr, Jeffrey Epstein.

“Mae’r ffordd tuag at gyfiawnder wedi bod yn rhy hir o lawer. Ond, heddiw, mae cyfiawnder. Dw i eisiau cymeradwyo dewrder y merched – nawr yn fenywod – a wnaeth gamu o’r cysgodion ac i’r llys.

“Mae eu dewrder a’u parodrwydd i wynebu eu camdriniwr wedi gwneud yr achos, a’r canlyniad heddiw, yn bosib.”

Mae brawd Maxwell wedi dweud y bydd hi’n apelio yn erbyn y cyhuddiadau yn ei herbyn, gan ddweud eu bod nhw’n “credu’n gryf” ei bod hi’n ddieuog, ac yn “siomedig gyda’r dyfarniad”.

Dydy’r dyddiad ar gyfer dedfrydu Maxwell, sydd wedi bod yn y carchar ers cael ei harestio fis Gorffennaf llynedd, heb gael ei gadarnhau eto.

Cyfweliad Alan Dershowitz

Yn y cyfamser, mae’r BBC wedi dweud nad oedd eu cyfweliad gyda chyn-gyfreithiwr Jeffrey Epstein, Alan Dershowitz, wedi’r dyfarniad yn “addas”.

Dywedodd y BBC eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad ar ôl i gyfweliad gyda’r cyfreithiwr a wnaeth gynrychioli’r pedoffeil gael ei ddarlledu ar BBC News ddoe (29 Rhagfyr).

Mae Alan Dershowitz, 83, wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhyw gan Virginia Roberts, Mae e’n gwadu’r cyhuddiadau, ac nid yw wedi cael ei gyhuddo’n ffurfiol.

Mewn datganiad, dywedodd y BBC: “Ni wnaeth y cyfweliad neithiwr gydag Alan Dershowitz ar ôl dyfarniad Ghislaine Maxwell gwrdd â safonau golygu’r BBC, gan nad oedd Mr Dershowitz yn berson addas i’w gyfweld fel dadansoddwr diduedd, ac ni wnaethom ni egluro’r cefndir perthnasol yn glir i’n cynulleidfa.

“Byddwn ni’n edrych at sut ddigwyddodd hyn.”

Wedi’r dyfarniad, dywedodd Alan Dershowitz ar y BBC: “Y peth pwysicaf, yn enwedig i wylwyr Prydeinig, yw bod y llywodraeth wedi bod yn ofalus iawn gyda phwy wnaethon nhw ddefnyddio fel tystion.

“Ni wnaethon nhw ddefnyddio’r ddynes sydd wedi cyhuddo’r Tywysog Andrew, fy nghyhuddo i, cyhuddo nifer o bobol eraill, fel tyst oherwydd doedd y llywodraeth ddim yn credu ei bod hi’n dweud y gwir.

“Yn hynny beth, cafodd Virginia Giuffre ei chrybwyll yn yr achos fel rhywun oedd yn dod â phobol ifanc i Epstein eu cam-drin, felly dydy’r achos hwn ddim yn gwneud dim i gryfhau’r achos yn erbyn Tywysog Andrew, yn wir, mae’n gwanhau’r achos yn erbyn Tywysog Andrew yn sylweddol oherwydd fe wnaeth y llywodraeth ddethol pwy wnaethon nhw eu defnyddio yn ofalus.”

Ghislaine Maxwell wedi “targedu merched ifanc i Epstein eu cam-drin”

Achos llys yn dechrau yn Efrog Newydd yn erbyn cynbartner y pedoffeil Jeffrey Epstein