Mae’n anochel y bydd llywodraeth Gogledd Iwerddon yn dymchwel oni chaiff y problemau sydd wedi codi yn sgil protocol Brexit Gogledd Iwerddon eu datrys.

Dyna yw rhybudd Paul Givan, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, sy’n dweud bod y sefyllfa bresennol yn gwbl amhosibl.

Mae ei sylwadau yn dilyn bygythiadau parhaus gan arweinydd y DUP, Syr Jeffrey Donaldson y bydd ei blaid yn tynnu’n ôl o Stormont oni cheir gwared ar y ‘ffin’ rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon mae’r protocol wedi’i chreu.

Diben y protocol oedd rhwystro ffin galed yn Iwerddon ar ôl Brexity, ond mae wedi arwain yn lle hynny at rwystrau masnach ar draws Môr Iwerddon rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain.

‘Dim cefnogaeth’

“Dyw’r trefniant ddim yn gynaliadwy oherwydd nad oes ganddo gefnogaeth y gymuned unoliaethol,” meddai Paul Givan.

“Gall pobl ddadlau bod y protocol o ganlyniad i Brexit a bod Brexit yn anghywir. Ond rhaid inni wynebu’r cwestiwn o sut mae gwneud iddo weithio.

“Sut mae cael cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr i Stormont i weithio dros bobl?

“Dyna oedd llwyddiant y gorffennol, lle’r oedd pawb yn teimlo y gallen nhw fod yn rhan o’r broses.”

Dywedodd ei fod wedi ymrwymo i ddatganoli a bod arno eisiau i Gynulliad Gogledd Iwerddon weithio.

“Dw i’n meddwl ein bod yn well am adnabod anghenion ein cymunedau,” meddai.

“Dw i’n meddwl mai Stormont yw’r lle i wneud hynny gan fod Llundain yn rhy bell, ac felly rydym yn well am wneud i’n gwleidyddiaeth weithio.

“Ond mae’r protocol wedi tarfu ar y cydbwysedd hwnnw, yn nhermau newid cyfansoddiadol heb gael caniatâd y cyhoedd i wneud hynny. Felly mae angen inni ddatrys y sefyllfa.”