Cafodd dros 20,000 o achosion newydd o’r coronafeirws eu cadarnhau yn yr Alban heddiw (dydd Llun 3 Ionawr) – y nifer uchaf erioed mewn un diwrnod.
Dangosodd ffigurau gan Lywodraeth yr Alban fod 34.9% o gyfanswm o 65,860 o brofion am y feirws wedi profi’n bositif.
Mae hyn yn dilyn 14,036 o achosion newydd yn cael eu cadarnhau yng Nghymru ddoe – dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru na fydd y ffigurau hyn yn cael eu diweddaru heddiw.
Mae absenoldeb staff sy’n sâl gyda Covid-19 yn rhoi pwysau ar nifer cynyddol o ysbytai yn Lloegr, gydag ymddiriedolaeth ysbytai yn Swydd Lincoln yn cyhoeddi argyfwng ‘Digwyddiad Tyngedfennol’ (critical incident).
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson fod y Gwasanaeth Iechyd yn debyg o barhau o dan bwysau sylweddol am rai wythnosau eto.
“Does dim dwywaith fod Omicron yn parhau i ledaenu trwy’r wlad,” meddai. “Mae’n hanfodol ein bod ni’n helpu staff y Gwasanaeth Iechyd i gadw rheolaeth ar y pandemig trwy gael ein brechu.
“Ffolineb llwyr fyddai dweud bod hyn drosodd bellach i bob pwrpas.”