Mae mwy na hanner y plant du ym Mhrydain yn cael eu magu mewn tlodi, yn ôl dadansoddiad gan y Blaid Lafur o ystadegau swyddogol y llywodraeth.
Roedd tua 53% o blant du yn byw mewn tlodi yn 2019-20, o gymharu â 42% ddegawd ynghynt. Mae hyn yn cyfrif am un o bob 10 o’r holl blant ym Mhrydain, ac yn ddwbl y ganran o 26% o blant gwyn sy’n dlawd.
Mae nifer y plant du sy’n byw mewn tlodi wedi mwy na dyblu o 205,000 yn 2010-11 i tua 412,000 yn 2019-20, sydd wedi digwydd ar adeg o gynnydd cyffredinol un nifer y plant du.
Mae’r Blaid Lafur yn galw am Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol newydd i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol ac ar i’r llywodraeth weithredu 20 o argymhellion a wnaed gan y Farwnes Doreen Lawrence mewn adroddiad y llynedd.
Meddai Anneliese Dodds, ysgrifennydd yr wrthblaid dros ferched a chydraddoldeb:
“Dylai’r Ceidwadwyr fod â chywilydd fod mwy na hanner y plant du yn tyfu i fyny mewn tlodi y Nadolig hwn, mwy na dwbl y nifer pan wnaethon nhw gychwyn mewn llywodraeth.
“Does dim syndod fod tlodi plant wedi saethu i fyny dros y ddegawd ddiwethaf pan mae gweinidogion Ceidwadol wedi gwneud yn lleied i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb strwythurol sy’n ei achosi.”
Grwpiau ethnig eraill
- Roedd y sefyllfa’n waeth fyth ymysg plant o dras Bangladeshaidd gyda 61% yn byw mewn tlodi, ac ymysg plant Pacistanaidd, gyda 55% yn byw mewn tlodi yn 2019-20.
- Roedd y gyfran o blant gwyn yn byw mewn tlodi wedi codi fymryn o 24% yn 2010-11 i 26%.
- Ar y llaw arall, roedd y gyfran o blant Indiaidd tlawd wedi gostwng o 34% yn 2010-11 i 27% yn 2019-20.
- Bu cwymp sylweddol hefyd mewn tlodi ymysg plant Tsieineaidd – o 47% i 12% dros yr un cyfnod.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod wedi ymrwymo i gael gwared ar dlodi ac i “roi mwy o arian ym mhocedi teuluoedd sy’n gweithio’n galed”.
“Mae’r ffigurau swyddogol diweddaraf yn dangos bod 300,000 yn llai o blant o bob cefndir mewn tlodi ar ôl cymryd costau tai i ystyrieaeth nag yn 2010, a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth helaeth i leihau’r nifer hwn ymhellach,” meddai.